Ewch i’r prif gynnwys

Ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd

Mae ein ffeiriau a'n digwyddiadau gyrfaoedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gysylltu â chyn-fyfyrwyr a chyflogwyr, gan gynnig cipolwg gwerthfawr iddyn nhw ar swyddi i raddedigion, interniaethau a lleoliadau, yn ogystal â'u helpu i ddod o hyd i’w llwybrau gyrfaol yn y dyfodol.

Mae’n bleser gennym ni groesawu cyflogwyr i adeilad eiconig Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yng nghanol y brifysgol, yn ogystal â nodi lleoliadau eraill ar y campws lle gallwch chi gwrdd â myfyrwyr.

Careers and Placements Fair overshot of employers speaking to students

Nid oes modd cadw lle ar gyfer ffair gyrfaoedd y Gwanwyn bellach. Cysylltwch â ni drwy e-bostio employerservices@caerdydd.ac.uk i fynegi eich diddordeb ar gyfer ffeiriau 2025-2026 ac i dderbyn y wybodaeth lawn pan fydd y cyfnod cadw lle ar agor.

A group of students watch a presentation

Digwyddiadau gyda Chyflogwyr

Bydd ein tîm yn cyfarfod â chi i drafod y gweithgaredd gorau ar gyfer eich ymgyrch a’ch anghenion recriwtio, gan eich helpu i drefnu eich digwyddiad. Boed yn marchnata neu’n cadw lleoedd i fyfyrwyr, byddwn ni’n rheoli popeth ac yn rhoi cyngor cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.

Rydyn ni’n argymell y canlynol:

  • Cyflwyniadau gan Gyflogwyr gyda rhwydweithio a sesiwn holi ac ateb fyw
  • Sesiynau sgiliau rhyngweithiol
  • Trafodaethau Panel
  • Digwyddiadau rhwydweithio ysgolion a’r rheiny sy’n sector-benodol
  • Digwyddiadau Panel y Cyn-fyfyrwyr
  • Stondinau gyda chyflogwyr
  • Mewnwelediadau a theithiau o amgylch y Swyddfa
  • Cyflwyno heriau yn y byd go iawn a phrosiectau sydd ar waith o fewn y cwricwlwm

Llongyfarchiadau i Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd! Rydych chi'n dîm mor gyfeillgar a chroesawgar, ac mae pob un o'ch digwyddiadau wedi'i drefnu'n arbennig o dda. Rydych chi wir yn gofalu am eich cwmnïau pan ddôn nhw i’r digwyddiadau, ac mae hynny’n dipyn o gamp o’m profiad i.

Mountbatten Programme

Rhagor o wybodaeth

Mae croeso ichi gysylltu â'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i drafod eich anghenion recriwtio.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr