Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu eich brand ar y campws

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd gwych i adeiladu eich brand yma ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny drwy weithgareddau hyrwyddo penodol. Rydyn ni wedi ein lleoli yng nghanol y ddinas, a gallwn ni hyrwyddo eich sefydliad i dros 33,000 o fyfyrwyr drwy amrywiaeth o sianeli marchnata.

Llyfryn Datblygu Brand

Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys manylion ar y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer adeiladu brand gwych i’ch cwmni/brand yn 2023-2024

Ymhlith y gweithgareddau a awgrymir y mae:

  • Codi eich proffil drwy noddi ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau Dyfodol Myfyrwyr.
  • Hysbysebu eich sefydliad neu unrhyw swyddi gwag sydd gennych ar ein 2 sgrin ddigidol yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr blaenllaw.
  • Cyflwyno yn ystod ein digwyddiad Cyflogwr Dan y Chwyddwydr
  • Cynnal sioe deithiol hwyliog a rhyngweithiol ar y campws

Mae ein presenoldeb rheolaidd mewn digwyddiadau wedi arwain at godi ein proffil ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni hefyd wedi gweld cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr a mwy o fyfyrwyr yn cael eu recriwtio yn y pen draw oherwydd hynny.

Bipsync

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysebu, cyfleoedd noddi, ac adeiladu eich brand ar y campws, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr