Ewch i’r prif gynnwys

Hysbysebu eich swyddi gwag gyda ni

Gallwch chi hysbysebu eich swyddi i dros 33,000 o fyfyrwyr gweithgar, amrywiol a dawnus, yn ogystal â graddedigion diweddar Prifysgol Caerdydd, drwy ein hysbysfwrdd swyddi ar-lein.

Hysbysfwrdd Swyddi

Ni allai hyrwyddo eich cyfle fod yn hawsach na hyn, ac mae am ddim! Gallwch chi hysbysebu’r cyfleoedd canlynol:

  • swyddi parhaol i raddedigion
  • contractau tymor byr
  • lleoliadau gwaith ac interniaethau
  • gwaith prosiect pwrpasol
  • pob un o'r uchod yn y DU a thramor

Cofrestru ac uwchlwytho eich swyddi gwag ar ein Bwrdd Swyddi

Mae pob swydd wag yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cyflogwyr ar hysbysebu swyddi gwag a’n hysbysiad preifatrwydd.

Website image of Jobs Board

Os ydych chi’n dymuno hysbysebu swyddi gwag a fyddai'n well i’r myfyrwyr hynny sydd am weithio'n rhan-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau, y dewis amgen ar eu cyfer yw ein Siop Swyddi. Dyma ein gwasanaeth cyflogaeth i fyfyrwyr a’i ddiben yw ceisio dod o hyd i gyfleoedd gwaith â thâl i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gallwn ni helpu i recriwtio hefyd. Rydyn ni’n cynnig y canlynol:

  • ystafelloedd cyfweld a mannau ichi gwrdd ag ymgeiswyr Prifysgol Caerdydd
  • gweithgareddau canolfan asesu

Cysylltu â ni

Cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i hysbysebu ar ein Hysbysfwrdd Swyddi.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr