Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad proffesiynol ar gyfer busnesau

Cewch afael ar ein harbenigedd drwy atebion hyfforddiant dwys, ymarferol: rhaglen ein haddysg weithredol a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol, gan gynnwys cyrsiau byr wedi’u hamserlennu, hyfforddiant pwrpasol mewn pynciau arbenigol, rhaglenni ar-lein a modiwlau unigol ar lefel ôl-raddedig.

Project Management Alumni event 2019

Cyfleoedd DPP

Gydag arbenigedd ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, mae gennym y r arbenigedd i roi gwybodaeth a thechnegau proffesiynol, a’r cwbl yn seiliedig ar ymchwil.

Delegate writing and working on laptop

Cyrsiau byr

Datblygwch eich sgiliau a’ch gwybodaeth broffesiynol gyda'n rhaglen cwrs byr, wrth rannu profiadau a syniadau ag eraill yn eich maes.

Two people looking at a computer screen

Modiwlau ôl-raddedig ar gyfer DPP

Rydym yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau a addysgir i ôl-raddedigion y gellir eu hastudio yn unigol.

Bespoke training courses and learning opportunities from Cardiff University

Cyrsiau hyfforddiant pwrpasol

Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs hyfforddiant DPP presennol, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Dysgwch fwy am raglenni datblygiad proffesiynol ar gael yn y Brifysgol, gan gynnwys cyfres o gyrsiau Addysg Gweithredol mewn pynciau megis gweithio effeithiol a sgiliau arweinyddiaeth.

Cysylltwch â

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus