Trawsnewid strategaeth
Sut wnaeth KTP helpu cyflwyno ffordd fain o weithio ar gyfer prif wneuthurwr cynnyrch llaeth y DU.
Herio’r farchnad
Yeo Valley, a sefydlwyd yn 1961, yw un o’r gwneuthurwyr cynnyrch llaeth mwyaf ym Mhrydain ac ar hyn bryd yn mae'r cwmni'n cynhyrchu dros 25% o farchnad iogwrt y DU. Yn cyflogi dros 1400 o bobl, mae’r cwmni yn gweithredu mewn marchnad gynyddol o heriol.
Cydnabyddwyd byddai cyflwyno system fain o fewn y sefydliad yn rhoi cyfleoedd i adeiladu mantais gystadleuol gynaliadwy. I helpu i fynd i’r afael â hyn gwnaeth y cwmni gwblhau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gydag Ysgol Busnes Caerdydd. Pwrpas y bartneriaeth oedd i ddatblygu gwybodaeth newydd mewn dulliau a thechnegau main, gyda’r nod i integreiddio rhaglen newid fain ar draws y sefydliad. Drwy weithredu diwylliant main cynaliadwy, prif amcan Yeo Valley oedd cyrraedd ei nod strategol 5 mlynedd o gynyddu trosiant ac elw.
'Better Than Ever'
Roedd y prosiect ‘Better Than Ever’ yn llwyddiannus yn codi ymwybyddiaeth o fewn y cwmni o'r dulliau a thechnegau oedd angen i ddarparu diwylliant main cynaliadwy. Yn ogystal, llwyddwyd i wella offer a thechnegau i leihau amseroedd a chostau gweithgynhyrchu cynnyrch.
Gwnaeth y prosiect KTP gyflawni mwy na'r disgwyl, nid yn unig o ran canlyniadau ond hefyd oherwydd y bobl oedd yn rhan ohono a’u brwdfrydedd a’u hyder yn y prosiect.
Mae'r wybodaeth wedi ei chyfnerthu’n bellach yn dilyn y prosiect, drwy gyflwyno’r rhaglen ar draws y sefydliad a chyflogaeth gyda'r Tîm Gwella Parhaus BTE. Mae cynnydd rhagorol y rhaglen wedi ei gydnabod gan y System Hyfforddi o fewn Hyfforddi Diwydiant (TWT).
Mae’r prosiect trosglwyddo gwybodaeth hefyd wedi sicrhau datblygu cysylltiadau pellach rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Yeo Valley. Mae hyn yn cynnwys uwch reolwyr Yeo Valley yn cyflwyno darlithoedd gwadd i ddosbarthiadau israddedig a chynnig astudiaethau achos busnes perthnasol i’w defnyddio mewn deunydd addysgu.