Arloesedd gweithgynhyrchu
Partneriaeth a helpodd i ddylunio peiriannau torri brics pwrpasol a chyflwyno egwyddorion gweithgynhyrchu Darbodus yn y diwydiant adeiladu.
Gweithgynhyrchu ‘ffitio’
Mae Brick Fabrication Limited yn cynhyrchu cynhyrchion adeiladu cyn-wneuthuredig ar gyfer diwydiant adeiladu tai’r DU, ac mae wedi bod yn cyflenwi’r adeiladwyr tai blaenllaw am bron i 20 mlynedd.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol a chyrraedd pwynt o adenillion lleihaol o ran gosodiad y ffatri a’r offer cynhyrchu. Arweiniodd cyfleoedd yn y farchnad a gyflwynwyd gan ddefnydd cynyddol o gynhyrchion cyn-wneuthuredig yn niwydiant adeiladu tai’r DU at yr angen i gynyddu capasiti cynhyrchu er mwyn gallu bodloni’r galw ymhlith cwsmeriaid.
Datblygwyd prosiect KTP gydag Ysgol Peirianneg Caerdydd, yn canolbwyntio ar helpu’r cwmni i gynyddu ei effeithiolrwydd a’i gapasiti cynhyrchu. Ceisiodd hefyd ddylunio a gweithredu system weithgynhyrchu ‘Ffitio’ neu Ddarbodus a fyddai’n cynnwys peiriannau torri awtomataidd gyda gallu dylunio CAD-CAM 3D. Recriwtiodd y tîm Sajith Soman, un o Aelodau Cyswllt KTP, i reoli’r prosiect a sicrhau bod yr arbenigedd academaidd yn cael ei ymsefydlu’n llwyddiannus yn y cwmni.
Technegau arfer gorau
Arweiniodd y prosiect at ailddylunio gosodiad y ffatri yn unol ag egwyddorion Darbodus, ac mae amser segur y peiriannau wedi gostwng o ganlyniad drwy awtomeiddio dylunio 2D a 3D. Mae’r broses o ddylunio a gweithgynhyrchu un gydran o’r peiriannau yn arbennig wedi cynyddu’r cyfnod cyn gorfod trwsio peiriannau gan 500%.
Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi ar egwyddorion Darbodus, gan arwain at newid diwylliant yn y cwmni. Mae Brick Fabrication nawr yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu sydd wedi’u hawtomeiddio a thechnegau arfer gorau yn fwy hyderus. At hynny, mae’r prosiect wedi cyfrannu at ymgyrch recriwtio â’r nod o greu 31 o swyddi newydd yng nghyfleuster y cwmni ym Mhont-y-pŵl dros y tair blynedd nesaf.
Datblygodd yr academyddion ddealltwriaeth o gymhlethdodau peiriannu a rhesi cydosod mewn cyd-destun adeiladu tai. Mae deunydd addysgu a phapurau ymchwil wedi’u datblygu o ganlyniad uniongyrchol i’r wybodaeth newydd hon, ynghyd â phrosiectau ymchwil myfyrwyr.
At hynny, mae’r KTP wedi agor drysau i brosiectau ymchwil cydweithredol pellach rhwng y Brifysgol a Brick Fabrication Limited, gydag ail brosiect KTP llwyddiannus gydag Ysgol Busnes Caerdydd.