Cynyddu gallu
Darganfod sut wnaeth partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth (KTP) arwain at wella ac ehangu galluoedd cloddio data cwmni Technoleg Teithio.
Cyfoeth o ddata teithio
Mae Comtec yn un o gyflenwyr technoleg teithio mwyaf y diwydiant teithio a hamdden, gyda thîm o dros 110 o aelodau staff ac amrywiaeth o systemau gwerthu a rheoli teithio yn y DU, UDA, Canada a thu hwnt.
Roedd y cwmni'n cydnabod bod ganddi gyfoeth o ddata a gellir ei ddefnyddio i ddarparu mwy o wybodaeth i’w cwsmeriaid ac i’w hunan. I grynhoi'r gwybodaeth fusnes o’r cyfoeth o ddata, gwnaeth Comtec droi at Dr. Jianhua Shao a’r Athro Omer Rana o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol.
Roedd yna ddau amcan i’r prosiect; i ddeall a pharatôi’r ased data yn well ar gyfer darganfod gwybodaeth ac i ddatblygu offer cloddio data a delweddu i alluogi Comtec i grynhoi gwybodaeth busnes o’i data.
Mantais Gystadleuol
O ganlyniad i'r sgiliau technolegol a gallu newydd o'r bartneriaeth hon, mae Comtec wedi gwella fel darparwr technoleg meddalwedd proffesiynol ac wedi datblygu mantais gystadleuol mewn marchnad anodd.
Mae gan y cwmni brototeip dadansoddi data sy’n profi’r cysyniad, sy’n galluogi delweddu greddfol a dadansoddiad effeithiol o batrymau archebu teithio cymhleth. O ganlyniad uniongyrchol i'r bartneriaeth hon, mae'r cwmni bellach yn gallu mynd at fusnesau a marchnadoedd newydd.
Mae’r prosiect wedi rhoi mwy o brofiad i'r tîm academaidd o ran defnyddio technegau cloddio data o fewn gosodiadau masnachol. Mae hyn wedi cyfrannu’n uniongyrchol i’w llwyddiant dilynol wrth ennill prosiectau newydd. Mae’r prosiect hefyd wedi cyfoethogi eu haddysgu am raglenni'r byd go iawn mewn amrywiaeth o fodiwlau cyfrifiadureg.