Pam dewis ni?
Mae gennym bortffolio trawiadol o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) llwyddiannus, gan gynnwys llawer o brosiectau arobryn, a thîm KTP ymroddedig.
Arbenigedd a chefnogaeth
Rydym yn cynnig cefnogaeth i'n holl bartneriaid sydd yn cymryd rhan mewn partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth drwy gydol cyfnod pob prosiect, o'r ymholiadau cyntaf hyd at gyflwyno'r bartneriaeth.
Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
- Dealltwriaeth o’ch gofynion prosiect a’r bwlch wybodaeth o fewn y cwmni
- Adnabod arbenigwyr academaidd gyda’r wybodaeth cywir.
- Hwyluso perthnasau
- Cefnogaeth wrth ddatblygu'r cynnig
- Paratoi a chyflwyno grant
- Recriwtio cydymaith
- Gweinyddu ariannol a chyllideb
- hyrwyddo prosiectau penodol ar y cyd (astudiaethau achos, gwobrau, datganiadau’r wasg).
Hanes cryf
Mae gennym hanes cryf o brosiectau KTP hynod lwyddiannus:
- Mae dros 90% o'n hymgeiswyr yn derbyn grantiau KTP yn llwyddiannus
- Rydym wedi gweithio gyda thros 300 o gwmnïau
- Mae tua 70% o'n Cymdeithion yn cael eu cyflogi'n llawn amser ar ddiwedd y prosiect gyda'r partner busnes
Mae’r Bartneriaeth wedi bod yn chwa o awyr iach, gan ganiatáu inni weithio gydag academyddion gorau’r DU i gynhyrchu cynnyrch a chreu gwasanaethau sy’n gwella ein busnes.Mae SRS yn ymwneud â 3 Partneriaeth ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae gennym feddwl mawr iawn o’r broses yn ei chyfanrwydd, y bobl rydyn ni wedi cwrdd â nhw ac wedi gweithio gyda nhw, yn ogystal â’n partneriaid cyswllt. Mae wedi bod yn broses wych o’r dechrau hyd y diwedd un ac mae’r monitro a’r anogaeth wedi bod yn rhagorol. Diben y Partneriaethau heb os nac oni bai yw eu bod yn llwyddo!
Astudiaethau achos
Mae ein Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn helpu busnesau i ffynnu a thyfu