Cyllid a chostau
Mae cynllun y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael ei ariannu’n rhannol gan nifer o noddwyr, gan gynnwys holl Gynghorau Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru ac Innovate UK, sydd i gyd yn gyfrifol am reoli’r cynllun.
Mae prosiect nodweddiadol y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig pecyn cymorth gwerth rhwng £80,000 a £100,000 y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys y costau canlynol:
- y tîm academaidd
- nwyddau traul y prosiect
- cyflog y cydymaith
- mentora, hyfforddi a datblygu
- teithio a chynhaliaeth
Cyfraniadau cyfradd grant Innovate UK yw:
- busnesau mawr a sefydliadau sector cyhoeddus: 50&
- busnesau bach iawn, bach a chanolig y tu allan i Gymru: hyd at 67%
- gall mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, elusennau neu fusnesau elusennol gyda 499 neu lai o weithwyr (cyfwerth ag amser llawn) dderbyn cyfraniad grant gwerth hyd at 75% o gostau cymwys y prosiect. Bydd dros 500 (cyfwerth ag amser llawn) yn derbyn cyfraniad grant gwerth hyd at 50% o gostau cymwys y prosiect.
Arian gan Lywodraeth Cymru
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac sydd wedi’u cymeradwyo i gymryd rhan yn rhaglen y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.
Partnerships jointly develop proposal to address a specific business need and must submit their proposal for assessment between 1 September 2020 and 29 March 2027. Only applications received during this time will be eligible for this funding.
Mae partneriaethau’n datblygu cynnig ar y cyd i fynd i’r afael ag angen busnes penodol ac mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno eu cynnig ar gyfer asesu rhwng 1 Medi 2020 a 29 Mawrth 2027. Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn ystod yr adeg hon fydd yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau ariannu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Llywodraeth Cymru
Sut i wneud cais
- bydd cais grant Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael ei gwblhau ar y cyd gennych chi a’r partner academaidd, gyda chymorth tîm Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Caerdydd
- bydd yr Ymgynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth rhanbarthol yn ymweld â chi i gadarnhau ymarferoldeb y prosiect ar gam cynnar yn y broses
- mae’r tîm Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cydlynu’r broses ymgeisio gyfan i sicrhau bod y dyddiad cau yn cael ei fodloni
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno
Mae'r rhaglen yn agored i unrhyw syniadau arloesol o ansawdd uchel gan bob busnes. Gallwch chi wneud cais o unrhyw sylfaen neu sector technoleg. Gall eich prosiect hefyd fod ar unrhyw gam ymchwil a datblygu.
Y dyddiadau cyflwyno sydd i ddod yw:
- 9 Ebrill 2025
- 11 Mehefin 2025
- 17 Medi 2025
- 26 Tachwedd 2025
- 28 Ionawr 2026
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o gymorth, cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Busnesau a Phartneriaethau:
Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau
Am ragor o fanylion ar y broses cyllido ac ymgeisio.