Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth
Manteisiwch ar ein sgiliau academaidd a’n harbenigedd i’ch gwneud yn fwy cystadleuol a rhoi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch perfformiad.
Ynglŷn â KTPs
Mae'r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn creu partneriaeth tair-ffordd ddeinamig rhwng busnes, tîm academaidd arbenigol a myfyriwr graddedig neu ôl-raddedig talentog (y Cydymaith).
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys mwy nag un person cymwys (cydymaith) i hwyluso trosglwyddo sgiliau ac arbenigedd. Maent yn gweithio o fewn eich sefydliad ar brosiect sy'n ganolog i’ch anghenion ac yn cael eu goruchwylio gan bersonél y cwmni ac uwch-academydd.
Mae'r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan UKRI drwy Innovate UK, wedi bod ar waith ers dros 45 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi galluogi mwy na 14,000 o fusnesau i arloesi er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol. KTN yw un o bartneriaid y rhaglen. Mae’n rhoi cymorth arbenigol i holl Gymdeithion a phrosiectau’r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth drwy ei rwydwaith cenedlaethol o 31 o Gynghorwyr Trosglwyddo Gwybodaeth.
Mae KTP yn cael ei ariannu'n rhannol gan grant. Bydd angen i chi gyfrannu at gyflog y Cydymaith a fydd yn gweithio gyda'ch busnes, ynghyd â chost goruchwyliwr a fydd yn goruchwylio'r cynllun.
Mae'r swm y bydd angen i chi ei gyfrannu yn dibynnu ar raddfa a hyd y prosiect. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint eich cwmni. Yn nodweddiadol:
- mae busnesau bach a chanolig yn cyfrannu tua £ 30,000 y flwyddyn, tua thraean o gostau'r prosiect
- mae busnesau mawr yn cyfrannu tua £ 45,000 y flwyddyn, neu hanner costau'r prosiect
Cyllid trydydd sector
Gall busnesau trydydd sector o unrhyw faint dderbyn cyfraniad grant o hyd at 75% o gostau cymwys y prosiect gan Innovate UK, yn amodol ar gap, a bydd y busnes yn talu’r balans. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor gan KTP i helpu i gynyddu nifer y prosiectau gan fusnesau 3ydd Sector.
Rheoloaeth KTPS
Nod mKTP yw helpu busnesau i wella eu heffeithlonrwydd a'u cynhyrchiant drwy sicrhau defnydd gwell o wybodaeth ac arbenigedd gan dimau Academaidd arbenigol yn Sylfeini Gwybodaeth rhagorol y DU.
Manteision i fusnes
Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn ddewis amgen yn hytrach na threfnu ymgynghoriaeth neu leoliad myfyrwyr, sy'n arwain at amrywiaeth eang o fanteision gan gynnwys:
- cynnydd proffidioldeb
- cynnydd perfformiad
- mantais cystadleuol
- gwella proses
- lleihau costau
Mae gennym nifer helaeth o brosiectau KTPs llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau.
Cymryd rhan
Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, yna cysylltwch â ni.