Gwybodaeth ar gyfer partneriaid a goruchwylwyr
Mae pob prosiect wedi’i ddylunio i fodloni anghenion partner drwy waith sy’n cael ei wneud gan fyfyriwr pwrpasol ar lefel MPhil, Meistr Ymchwil neu PhD, dan oruchwyliaeth tîm academaidd yn y Brifysgol.
Mae’r canlynol ymysg y manteision pellach o gymryd rhan:
- llwybr i ddenu, datblygu a chadw ymchwilwyr newydd sydd â’r sgiliau perthnasol
- sefydlu ac adeiladu cysylltiadau parhaus gyda staff, cyfleusterau ac arbenigedd y Brifysgol
- y gost isel o gymryd rhan
- marchnata cadarnhaol, cyhoeddusrwydd a chyfleoedd hyrwyddo.
Gofynion allweddol
Rhaid i bartneriaid gael presenoldeb gweithredol yn y rhanbarth berthnasol o Gymru er mwyn cryfhau buddion barhaus i'r rhanbarth. Nid oes yn rhaid i hwn fod yn bencadlys. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sector preifat (Busnesau Bach; Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau); Cwmnïau Mawr). Caiff partneriaid Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus eu hystyried fesul achos.
Gofynnir i bartneriaid wneud cyfraniad ariannol o £3,500 - £5,000 y flwyddyn (ac eithrio TAW, yn dibynnu ar faint y cwmni a dyddiad dechrau’r prosiect). Rhaid bod y Brifysgol yn berchen ar eiddo deallusol sy’n deillio o’r prosiect. Caiff trwyddedau IPR eu trafod ymhellach. Bydd myfyrwyr yn treulio o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn gyda’r partner.
Efallai na fydd KESS2 yn briodol ar gyfer pob busnes. Gallech hefyd ystyried un o’n cynlluniau ariannu eraill, fel Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
Proses gwneud cais
Nid oes rhagor o leoedd PhD ar gael ar gyfer Dwyrain a Gorllewin Cymru.
Lawrlwythwch ffurflen gais prosiect Dwyrain i gyflwyno cais.
Rhoddir blaenoriaeth i bartneriaid yn y sector preifat ynghyd â’r rheiny nad ydynt wedi derbyn cyllid KESS 2 o'r blaen.
Rhaid i oruchwylwyr academaidd gysylltu â swyddfeydd Ymchwil Ôl-raddedig / Ymchwil eu hysgol wrth baratoi ceisiadau - dylid cyflwyno ceisiadau drwy swyddfa'r Ysgol Academaidd i KESS2 drwy ebostio kess@caerdydd.ac.uk gyda chymeradwyaeth yr Ysgol.
Cysylltwch â thîm gweinyddu KESS2 yn kess@caerdydd.ac.uk i drafod eich syniadau cyn datblygu cynnig llawn.
Cysylltwch â ni
Esther Meadows
Rheolwr Proseict Cyllid a Chydymffurfio
Ein harianwyr
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae'r fenter wedi'i hariannu'n rhannol gan raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.