Dan y Chwyddwydr Clinigol
‘Dan y Chwyddwydr Clinigol’ yw ein cyfres seminar chwe-misol wedi’i hanelu at ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Lansiwyd cyfres seminarau clinigol Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn ystod Haf 2022.
Mae pob sgwrs ar-lein yn para awr, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda'r siaradwr gwadd.
Darlith nesaf
Sut y gall sylfaen y dystiolaeth lywio penderfyniadau clinigol gyda thriniaeth ffarmacolegol o ADHD?
Cynhelir Dan y Chwyddwydr Clinigol nesaf Wolfson ddydd Mercher 25 Mehefin, 2 - 3pm,ar Microsoft Teams. Byddwn ni’n croesawu’r Athro Samuele Cortese i drafod a all ac i ba raddau y gall tystiolaeth gyfredol, sy’n ymwneud yn bennaf â meta-ddadansoddiadau mewn parau, meta-ddadansoddiadau rhwydwaith, meta-ddadansoddiadau ymateb i ddos, ac adolygiadau ymbarél, lywio’r driniaeth ffarmacolegol o ADHD a pharhau i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd. Bydda i hefyd yn trafod bylchau ac anghenion y dyfodol yn y maes.
Gwyliwch y ddarlith ddiweddaraf
Yr Athro Kapil Sayal yn cyflwyno canfyddiadau treial ‘STADIA’ yn CAMHS, gan gynnwys yr hyn a ddysgwyd. Cafodd y treial ei ariannu gan NIHR a’i gwblhau’n ddiweddar.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y newyddion a'r datblygiadau diweddaraf gan ganolfan ymchwil unigryw sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl ieuenctid.