Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod

Yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, rydyn ni wedi ymrwymo i greu llwybrau i unigolion a grwpiau ymgysylltu â’n gwaith.

Boed drwy roi darlithoedd cyhoeddus neu gynnal ein hysgol haf flynyddol, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu, cydweithio a chlywed gan arbenigwyr rhyngwladol a mewnol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Darlithoedd cyhoeddus

Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd cyhoeddus rhithwir yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr ledled y DU, yn ogystal â chydweithwyr rhyngwladol y Ganolfan.

 Two women sit at table talking

Dan y Chwyddwydr Clinigol

‘Sbotolau Clinigol’ yw ein cyfres o seminarau chwe-misol ar gyfer ymarferwyr a chlinigwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Ysgol Haf Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid

Mae’r ysgol haf rithwir flynyddol yn cynnig cyflwyniad manwl i ymchwil ac arferion arloesol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Students studying

Cyfleoedd PhD

Mae ein rhaglen PhD unigryw yn cael ei chyd-oruchwylio ar draws themâu ymchwil, ac mae'n cynnwys cyfnod pontio ôl-ddoethurol wedi’i ariannu sy’n para blwyddyn i ddatblygu cynnig cymrodoriaeth sy’n cyd-fynd â'n hamcanion.