Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Cynghori Ieuenctid

Mae Canolfan Wolfson yn rhoi profiadau a lleisiau pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith trwy ein Grŵp Cynghori Ieuenctid hir-sefydlog (YAG).

Mae ein Grŵp Cynghori Ieuenctid yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil, llunio ein strategaeth cynnwys y cyhoedd a llywio cyfeiriad ehangach y ganolfan ymchwil.

Rydyn ni’n recriwtio pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n byw gyda phrofiadau iechyd meddwl ac sy’n byw ym mhob rhan o'r DU yn rheolaidd i ymuno â'n Grŵp Cynghori Ieuenctid.

Sut i'n helpu ni

Trwy ymuno â Grŵp Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson, byddwch yn:

  • helpu i lunio gwaith y Ganolfan trwy gynghori ar y cwestiynau ymchwil sy'n bwysig i bobl ifanc
  • ein cynghori ni ar sut rydyn ni'n cynnal ein hymchwil
  • ein cynorthwyo ni i ddeall beth mae'r canfyddiadau ymchwil yn ei olygu i bobl ifanc
  • awgrymu sut y gellid defnyddio'r canfyddiadau i wella'r hyn sy'n digwydd mewn bywyd go iawn i bob ifanc sy'n byw gyda phrofiadau iechyd meddwl

Beth sy’n rhan o’r gwaith?

Rydyn ni’n cynnal cyfres o gyfarfodydd misol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae’r rhan fwyaf o'n cyfarfodydd yn cael ei gynnal ar-lein ond rydyn ni hefyd yn cynnal dau weithdy wyneb yn wyneb yma yng Nghaerdydd fel y gallwn gymdeithasu a dod i adnabod ein gilydd yn well.

Yn y cyfarfodydd, mae’r Grŵp yn ein cynghori ar ymchwil sy’n ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc, rhannu eu barn ar flaenoriaethau a gosod yr agenda ar gyfer llawer o'n digwyddiadau a'n gweithgareddau.

Rydyn ni'n deall bod eich amser yn werthfawr. Bydd aelodau o'r grŵp yn derbyn £25 (arian parod neu daleb) am gymryd rhan ym mhob sesiwn.

Pam ddylech chi ymuno â ni?

Am fod yn rhan o'n grŵp cynghori, byddwch yn:

Cael cyfle i fynegi eich barn
  • Gall eich barn effeithio'n uniongyrchol ar bolisi iechyd meddwl yma yng Nghymru. Caiff eich barn ei bwydo'n ôl i'n partneriaid yn ein Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu sy'n cynnwys cynghorwyr Llywodraeth Cymru, llunwyr polisïau ac elusennau sy'n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â meddygon a seicolegwyr sy’n gweithio i bobl ifanc a gyda nhw.
Dysgu sgiliau newydd
  • Cewch hyfforddiant mewn dulliau ymchwil wrth i chi ein cynghori ar ein gwaith, drwy dasgau megis archwilio ceisiadau grant neu gyfrannu at sesiynau gyda'n hymchwilwyr gwyddonol.
Gwella eich CV
  • Gallwn gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi, gan gynnwys ysgrifennu CV, cadeirio cyfarfod a llunio cynnwys digidol ar gyfer ein platfformau gwe a chyfryngau cymdeithasol.
Cael profiad creadigol
  • Gall aelodau’r grŵp gofrestru ar gyfer cyfleoedd ychwanegol drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys cyfrannu yn ystod ein digwyddiadau blynyddol, er enghraifft ein cyfarfod o'r Bwrdd Cynghori Gwyddonol ac Ysgol Haf Canolfan Wolfson. Mae aelodau’r Grŵp hefyd yn creu cynnwys digidol gwreiddiol gyda ni yn rheolaidd drwy ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu ar ein blog.

Gwnewch gais nawr

Llenwch y ffurflen gais fer ar-lein hon i fynegi eich diddordeb mewn ymuno â'n Grŵp Cynghori Ieuenctid.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y grŵp cynghori, cysylltwch â ni.

Emma Meilak

Emma Meilak

Public Involvement Officer, Wolfson Centre for Young People's Mental Health

Email
meilake@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8479