Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL)

a young woman in pink and purple writing at a desk

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil gyffrous sy'n canolbwyntio ar amddiffyn pobl ifanc rhag iselder.

Gall pobl ifanc 13-17 oed a’u rhiant a gofalwr gymryd rhan yn astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL). Bydd yr astudiaeth yn cynnig cefnogaeth i rieni sydd wedi profi hwyliau isel. Bydd hefyd yn profi a all rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) grŵp ar-lein ar gyfer pobl ifanc helpu i’w hamddiffyn rhag iselder a gwella ansawdd eu bywyd.

Mae'r rhaglen CBT grŵp ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys dysgu a chymhwyso sgiliau ar gyfer rheoli straen a hybu lles.

Rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr a phobl ifanc 13-19 oed gymryd rhan.

Pwy all gymryd rhan?

Er mwyn nodi’r bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o’r rhaglen, mae tîm SWELL yn chwilio am rieni sydd wedi profi hwyliau isel neu sydd wedi cael diagnosis o iselder.

Rhaid i rieni hefyd fod â phlentyn 13-19 oed sydd wedi profi hwyliau isel yn y gorffennol neu sydd â hwyliau isel ar hyn o bryd, ond nad ydynt yn derbyn neu nad oes angen triniaeth arbenigol arnynt.

Bydd y tîm ymchwil yn gwirio a ydych yn gymwys i gymryd rhan, felly os oes gennych ddiddordeb ond nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni.

Beth mae'n ei gynnwys?

Bydd pobl ifanc yn cael eu dyrannu ar hap i naill ai:

  • Ymuno â grŵp CBT ar-lein i ddysgu sgiliau ar gyfer cefnogi lles.
  • Parhau fel arfer

Bydd rhieni sy'n isel eu hysbryd ar ddechrau'r astudiaeth yn cael triniaeth iselder o safon uchel mewn rhaglen 12 wythnos wedi’i deilwra. Bydd hyn yn cynnwys triniaeth gan feddygon y treial a'r tîm clinigol.

Bydd y pobl ifanc a’r rhieni yn cael cymorth y tîm ymchwil i lenwi holiaduron ac yn cael cyfweliadau. Mae eu hymatebion yn helpu'r ymchwilwyr i ddeall a yw'r rhaglen grŵp CBT yn gweithio, a pha agweddau sydd bwysicaf i atal iselder.

Gwyliwch fideo byr i ddysgu mwy.

Manteision cymryd rhan

  • Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael taleb am eu hamser (o leiaf £60 ond hyd at uchafswm o £80)
  • Bydd rhieni sy'n bodloni meini prawf diagnostig ar gyfer iselder ar hyn o bryd yn cael triniaeth o safon uchel gan feddyg arbenigol yr astudiaeth.
  • Bydd rhai pobl ifanc yn ymuno â rhaglen grŵp CBT, i ddysgu sgiliau i ymdopi â straen ac i wella eu lles
  • Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth well o ymyriadau a all helpu i atal iselder ymhlith pobl ifanc

Sut i gymryd rhan

Os oes gennych chi a'ch plentyn ddiddordeb mewn cymryd rhan, llenwch ein ffurflen i gofrestru eich diddordeb.

Yna, bydd y tîm ymchwil yn cysylltu â chi i drefnu amser i drafod yr astudiaeth ac i ofyn cwestiynau i chi i weld a ydych yn gymwys i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm ymchwil Canolfan Wolfson drwy ebostio SWELL@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cofrestrwch eich diddordeb

Adnoddau

Lawrlwytho’r llyfryn gwybodaeth llawn: Taflen Wybodaeth SWELL 2023

SWELL Information Booklet 2023.pdf

SWELL Information booklet 2023