Ewch i’r prif gynnwys

Take part in research

A young black man and a young white woman sat a desk with two young white girls talking about a work book that their writing in

Drwy gymryd rhan mewn ymchwil, gallwch helpu i sicrhau dyfodol gwell i bobl ifanc y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gydag amrywiaeth o brosiectau ymchwil.

Astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL)

a young woman in pink and purple writing at a desk

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil gyffrous sy'n canolbwyntio ar amddiffyn pobl ifanc rhag iselder.

Gall pobl ifanc 13-17 oed a’u rhiant a gofalwr gymryd rhan yn astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL). Bydd yr astudiaeth yn cynnig cefnogaeth i rieni sydd wedi profi hwyliau isel. Bydd hefyd yn profi a all rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) grŵp ar-lein ar gyfer pobl ifanc helpu i’w hamddiffyn rhag iselder a gwella ansawdd eu bywyd.

Mae'r rhaglen CBT grŵp ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys dysgu a chymhwyso sgiliau ar gyfer rheoli straen a hybu lles.

Rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr a phobl ifanc 13-19 oed gymryd rhan.

Pwy all gymryd rhan?

Er mwyn nodi’r bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o’r rhaglen, mae tîm SWELL yn chwilio am rieni sydd wedi profi hwyliau isel neu sydd wedi cael diagnosis o iselder.

Rhaid i rieni hefyd fod â phlentyn 13 o 19 oed sydd wedi profi hwyliau isel yn y gorffennol neu sydd â hwyliau isel ar hyn o bryd, ond nad ydynt yn derbyn neu nad oes angen triniaeth arbenigol arnynt.

Bydd y tîm ymchwil yn gwirio a ydych yn gymwys i gymryd rhan, felly os oes gennych ddiddordeb ond nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni.

Beth mae'n ei gynnwys?

Bydd pobl ifanc yn cael eu dyrannu ar hap i naill ai:

  • Ymuno â grŵp CBT ar-lein i ddysgu sgiliau ar gyfer cefnogi lles.
  • Parhau fel arfer

Bydd rhieni sy'n isel eu hysbryd ar ddechrau'r astudiaeth yn cael triniaeth iselder o safon uchel mewn rhaglen 12 wythnos wedi’i deilwra. Bydd hyn yn cynnwys triniaeth gan feddygon y treial a'r tîm clinigol.

Bydd y pobl ifanc a’r rhieni yn cael cymorth y tîm ymchwil i lenwi holiaduron ac yn cael cyfweliadau. Mae eu hymatebion yn helpu'r ymchwilwyr i ddeall a yw'r rhaglen grŵp CBT yn gweithio, a pha agweddau sydd bwysicaf i atal iselder.

Gwyliwch fideo byr i ddysgu mwy.

Manteision cymryd rhan

  • Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael taleb am eu hamser (hyd at uchafswm o £160)
  • Bydd rhieni sy'n bodloni meini prawf diagnostig ar gyfer iselder ar hyn o bryd yn cael triniaeth o safon uchel gan feddyg arbenigol yr astudiaeth.
  • Bydd rhai pobl ifanc yn ymuno â rhaglen grŵp CBT, i ddysgu sgiliau i ymdopi â straen ac i wella eu lles
  • Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth well o ymyriadau a all helpu i atal iselder ymhlith pobl ifanc

Sut i gymryd rhan

Os oes gennych chi a'ch plentyn ddiddordeb mewn cymryd rhan, llenwch ein ffurflen i gofrestru eich diddordeb.

Yna, bydd y tîm ymchwil yn cysylltu â chi i drefnu amser i drafod yr astudiaeth ac i ofyn cwestiynau i chi i weld a ydych yn gymwys i gymryd rhan.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm ymchwil Canolfan Wolfson drwy ebostio SWELL@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adnoddau

Lawrlwytho’r llyfryn gwybodaeth llawn: Taflen Wybodaeth SWELL 2023

SWELL Information Booklet 2023.pdf

SWELL Information booklet 2023

Mae Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson yn sefydlu astudiaeth ymchwil newydd gyffrous i bobl ifanc sy'n meddu ar riant ag iselder.

Mae ein canolfan ymchwil yn canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd o atal iselder ymhlith pobl ifanc cyn iddo ddatblygu.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd Canolfan Wolfson yn cynnal astudiaeth newydd o'r enw Sgiliau ar gyfer Wellbeing Glasoed (SWELL).

Bydd yn cynnwys cynnal treial o ymyrraeth seicolegol grŵp ar-lein i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed, sydd â rhiant â hanes o iselder ac sydd â symptomau ysgafn o iselder eu hunain neu sydd wedi profi iselder yn y gorffennol.

Nod yr astudiaeth yw archwilio a yw'r therapi grŵp ar-lein hwn yn lleihau iselder ac yn gwella gweithrediad yn y bobl ifanc sy'n ei dderbyn.

Pwy all gymryd rhan?

Pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed sydd wedi cael diagnosis o iselder o'r blaen, neu sydd â symptomau ysgafn o iselder ar hyn o bryd.

Rhaid i bobl ifanc hefyd fyw gyda rhiant sydd wedi cael diagnosis o iselder yn ddiweddar neu yn y gorffennol, sydd hefyd yn fodlon cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Beth mae'n ei gynnwys?

Bydd pobl ifanc yn cael eu dyrannu ar hap i naill ai:

  • Grŵp ar-lein i ddysgu sgiliau ar gyfer cefnogi lles
  • Parhau â'r driniaeth arferol y maen nhw'n ei dderbyn

Bydd rhieni sy'n isel ar ddechrau'r astudiaeth yn cael eu triniaeth iselder wedi'i optimeiddio.

Bydd hyn yn cynnwys rhaglen 12 wythnos bersonol gan gynnwys triniaeth gan y meddygon prawf a'r tîm clinigol.

Bydd holiaduron a chyfweliadau'n cael eu cwblhau gyda phobl ifanc a rhieni mewn mannau amser ar draws yr astudiaeth.

Sut i gymryd rhan

Mae'r tîm ymchwil yn chwilio am rieni sydd â hanes o iselder sydd hefyd â phlentyn rhwng 13 ac 17 oed.

Os yw hyn yn berthnasol i chi a'ch plentyn, ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb. 

Gallwch hefyd gysylltu â thîm ymchwil Canolfan Wolfson drwy e-bost SWELL@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Hoffai ymchwilwyr o Lywodraeth Cymru siarad â phobl ifanc sydd wedi cael anawsterau iechyd meddwl yr oedd angen cymorth arnynt ar eu cyfer, yn ogystal â’u rhiant/gofalwr, ynghylch eu profiadau o newidiadau ym maes iechyd meddwl o ran cymorth, ymwybyddiaeth ac iaith yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i lywio adolygiad Llywodraeth Cymru o’i strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Byddai’r astudiaeth yn cynnwys cwblhau arolwg ar-lein ynghylch unrhyw newidiadau y gallech fod wedi’u profi dros y 5-10 mlynedd diwethaf ym maes iechyd meddwl o ran cymorth, iaith ac ymwybyddiaeth, yn ogystal â beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc fod yn y dyfodol, yn eich barn chi. Rydym am recriwtio pobl ifanc:

  • sy’n 11-18 oed
  • sy’n byw yng Nghymru
  • sydd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yr oedd angen cymorth arnynt ar eu cyfer, sef rhywun sydd naill ai wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl (e.e. iselder), neu sydd wedi profi anawsterau emosiynol yr oedd angen cymorth arnynt ar eu cyfer (e.e. oddi wrth gwnselydd ysgol)

Rydym hefyd yn recriwtio rhieni/gofalwyr y bobl ifanc sy’n bodloni’r meini prawf uchod.

Dyma ddolen at Hysbysiad Preifatrwydd Data Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi mwy o fanylion am yr astudiaeth a sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Os hoffech gymryd rhan, neu ddysgu mwy am yr astudiaeth hon, gallwch gysylltu â Dr Christopher Eaton drwy e-bostio Christopher.Eaton@llyw.cymru