Dan y Chwyddwydr Clinigol
‘Dan y Chwyddwydr Clinigol’ yw ein cyfres seminar chwe-misol wedi’i hanelu at ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Lansiwyd cyfres seminarau clinigol Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn ystod Haf 2022.
Mae pob sgwrs ar-lein yn para awr, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda'r siaradwr gwadd.
Darlith nesaf
Bydd y sgwrs ‘Dan y Chwyddwydr Clinigol’ nesaf yn cael ei chynnal ar-lein ar dydd Mercher 11 Rhagfyr. Cofrestrwch yma.
Byddwn ni’n croesawu'r Athro Kapil Sayal i siarad ar Asesiadau Diagnostig Safonedig (STADIA) Hap-dreial Rheoledig mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).
Bydd yr Athro Kapil Sayal yn cyflwyno canfyddiadau treial ‘STADIA’ yn CAMHS, gan gynnwys yr hyn a ddysgwyd. Cafodd y treial ei ariannu gan NIHR a’i gwblhau’n ddiweddar. Edrychodd STADIA ar y defnydd o offeryn Asesiad Diagnostig Safonedig sydd ar gael ar-lein, gan gynnwys ei effaith, yn achos plant a phobl ifanc (5-17 oed) ag anawsterau emosiynol a atgyfeiriwyd at CAMHS.
Bu'r treial cenedlaethol helaeth hwn (n=1,225) yn ymchwilio i ba mor effeithiol a chost-effeithiol yw defnyddio offeryn asesiad diagnostig safonedig, ar ôl i’r atgyfeiriad ddod i law CAMHS, ar gyfer canlyniadau clinigol a chanlyniadau seiliedig ar wasanaeth plant a phobl ifanc.
Gwyliwch y ddarlith ddiweddaraf
Yr Athro Cathy Creswell: Gwella mynediad at driniaethau seicolegol ar gyfer problemau’n ymwneud â gorbryder mewn plant
Gwyliwch ddarlith yr Athro Cathy Creswell ar ein tudalen YouTube
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y newyddion a'r datblygiadau diweddaraf gan ganolfan ymchwil unigryw sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl ieuenctid.