Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd cyhoeddus

Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cynnwys cyflwyniadau gan academyddion o fri rhyngwladol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Mae gan Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gysylltiadau cryf ag academyddion blaenllaw o bob cwr o'r byd. Yn y gyfres hon, bydd arbenigwyr o bob rhan o’r DU yn cyflwyno’u gwaith, yn ogystal â chydweithwyr rhyngwladol y Ganolfan.

Cynhelir y darlithoedd yma bob tri mis. Maen nhw’n para am awr, gyda sesiwn Holi ac Ateb byr i ddilyn.

Ni chodir tâl am fynd i unrhyw un o’r darlithoedd hyn.

Darlith nesaf

Anhwylder Osgoi a Chyfyngu ar Fwyta yn ystod plentyndod: Nifer yr achosion, cwrs, a pherthnasoedd â niwroddatblygiad ac iechyd meddwl

Cynhelir Darlith nesaf Wolfson ddydd Mercher 21 Mai, 2 - 3pm, ar Microsoft Teams. Byddwn ni’n croesawu’r Athro Alex Havdahl i drafod anhwylder osgoi a chyfyngu ar fwyta yn ystod plentyndod, maes arwyddocaol nad yw wedi’i ymchwilio’n ddigonol ym maes iechyd meddwl. Cyflwynwyd Anhwylder Osgoi a Chyfyngu ar Fwyta (ARFID) yn ddiweddar yn gategori diagnostig ar gyfer anhwylderau bwyta nad ydyn nhw, yn wahanol i anhwylderau bwyta eraill, yn gysylltiedig â phryderon am bwysau neu ddelwedd y corff.

Cofrestrwch yn rhad ac am ddim

Darlithoedd Blaenorol

Gallwch chi wylio pob un o’n darlithoedd blaenorol ar ein sianel YouTube.

Roedd hi’n dda croesawu:
    • Dr Michael Ungar Meithrin gwydnwch: naw ffordd y gall teuluoedd, ysgolion a chymunedau helpu plant i ffynnu
    • Dr Aideen Maguire - Salwch meddwl, hunan-niweidio a hunanladdiad yng Ngogledd Iwerddon: tystiolaeth newydd o ddata gweinyddol cysylltiedig
    • Yr Athro Vikram Patel - Ymyriadau ysgolion ar gyfer hybu iechyd meddwl pobl ifanc: Astudiaeth achos o India
    • Yr Athro Argyris Stringaris - Problemau sylfaenol yn sail tystiolaeth triniaeth iselder ymysg pobl ifanc
    • Yr Athro Thalia Eley - Archwiliadau hydredol o ganlyniadau datblygiadol a thriniaeth mewn gorbryder ac iselder mewn pobl ifanc ac oedolion ifanc.
    • Dr Daniel Pine - Gorbryder mewn plant a phobl ifanc - Cael hyd i gymorth mewn adegau o straen.
    • Dr Kirsten Asmussen - Beth sy'n gweithio i wella bywydau plant mwyaf agored i niwed Lloegr
    • Dr Rhiannon Evans - Adolygiad systematig o ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
    • Yr Athro Sarah Skeen a Mr Tatenda Mawoyo - Helpu pobl ifanc i ffynnu.
    • Dr. Erik Simmons - The PLAY Collaborative: Menter Gwyddoniaeth Weithredu i ehangu cyrhaeddiad ac ansawdd ymweliadau cartref sy'n seiliedig ar chwarae gan dad i hyrwyddo datblygiad plentyndod cynnar ac atal trais.
    • Yr Athro Katherine Shelton - Proffil iechyd meddwl a niwroseicolegol plant sydd wedi’u mabwysiadu o ofal: Cefnogi anghenion yng nghyd-destun bywyd teuluol.
    • Dr Daniel Michelson - Datblygu a gweithredu ymyriadau iechyd meddwl pobl ifanc mewn cyd-destunau adnoddau isel: Gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen 'Premium for Adolescents' (PRIDE) yn India.
    • Yr Athro Glyn Lewis  - Bregusrwydd i achosion straen, atgyfnerthu dysgu ac iselder.
    • Yr Athro Lucie Cluver - Magu Plant yn ystod Argyfyngau: Tystiolaeth ac arloesedd i gefnogi plant a'u gofalwyr.

Gwyliwch ar Youtube