Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan

Mae sawl ffordd gallwch gymryd rhan yn ein gwaith ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Mae cyfleoedd ar gael i chi gymryd rhan mewn ymchwil, cymryd rhan yn ein grŵp cynghori neu fynd i un o'n digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus rheolaidd.

Cyfleoedd i wneud ymchwil

Rydyn ni yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gydag amrywiaeth o brosiectau ymchwil.

a young woman in pink and purple writing at a desk

Astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL)

Mae Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson yn sefydlu astudiaeth ymchwil newydd gyffrous i bobl ifanc sy'n meddu ar riant ag iselder.

Photograph of adolescent boy accessing MoodHwb on a tablet

MoodHwb: Mood and Wellbeing in Young People

Fe wnaethom gydweithio â phobl ifanc a rhieni/gofalwyr i ddatblygu rhaglen we i gefnogi pobl ifanc gyda'u hwyliau a'u lles.

Cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan

Rydyn ni yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc sydd ag arbenigedd profiad byw i helpu i lywio ein hymchwil.

Young people sit at table talking

Grŵp Cynghori Ieuenctid

Mae gennym gyfleoedd cyffrous i bobl ifanc gydweithio â ni drwy ein Grŵp Cynghori Ieuenctid.

Cyfleoedd i ymgysylltu â’r cyhoedd

Rydyn ni yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim lle gallwch ddysgu mwy am ein gwaith a chlywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr yng Nghanolfan Wolfson.

A woman wearing headphones speaks in a virtual meeting

Darlithoedd cyhoeddus

Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cynnwys sgyrsiau gan academyddion o fri rhyngwladol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.