Adnoddau Fideo
Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan Wolfson yn cynnal darlithoedd a chyflwyniadau byr yn rheolaidd ynghylch eu gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl ieuenctid, ym mannau dysgu, cynadleddau, a digwyddiadau cyhoeddus.
Mae’r adnoddau fideo wedi cael eu categoreiddio isod ac ar gael ar sianel YouTube y Ganolfan Wolfson.
Darlithoedd cyhoeddus y Ganolfan Wolfson
Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cynnwys cyflwyniadau gan academyddion o fri rhyngwladol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Cynhelir y darlithoedd yma bob tri mis, lle bydd pob un yn para am awr, gyda sesiwn holi ac ateb fer yn dilyn hynny.
Y recordiad diweddaraf o Ddarlith Wolfson:
Problemau sylfaenol yn y sylfaen dystiolaeth o ran trin iselder ymhlith y glasoed gyda Yr Athro Argyris Stringaris
Dan y Chwyddwydr Clinigol
‘Dan y Chwyddwydr Clinigol’ yw ein cyfres seminar chwe-misol wedi’i hanelu at ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Mae pob sgwrs ar-lein yn para awr, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda'r siaradwr gwadd.
Y recordiad Dan y Chwyddwydr Clinigol diweddaraf:
Gwella mynediad at driniaethau seicolegol ar gyfer problemau’n ymwneud â gorbryder mewn plant gyda Yr Athro Cathy Creswell.
Yr Athro Cathy Creswell: Gwella mynediad at driniaethau seicolegol ar gyfer problemau’n ymwneud â gorbryder mewn plant
Gweminar Wolfson: Lleisiau ieuenctid ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwyliwch y gweminar Wolfson yn ôl: Lleisiau ieuenctid ar y cyfryngau cymdeithasol, digwyddiad i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid.
Bu’r panel yn treiddio’n ddwfn i’r ymchwil ddiweddaraf sy'n digwydd yn y Ganolfan. Ar ôl hynny, roedd trafodaeth grŵp dan arweiniad ein Hymgynghorwyr Ieuenctid.
Diben y sesiwn ryngweithiol hon yw ysgogi deialog agored rhwng yr ymchwilwyr a phobl ifanc a dyfnhau dealltwriaeth y gynulleidfa o’r ffyrdd y gall y cyfryngau cymdeithasol ddylanwadu ar iechyd meddwl, boed hynny mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol. Cafodd aelodau o’r gynulleidfa eu hannog i gymryd rhan weithredol yn y digwyddiad drwy ofyn eu cwestiynau ymlaen llaw neu yn ystod y sesiwn holi ac ateb fyw.
Gweminar Wolfson - lleisiau ieuenctid ar y cyfryngau cymdeithasol
Beth am drafod ADHD?
Rhyddhawyd yr animeiddiad hwn gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, ac mae ar gyfer plant sydd newydd gael diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad gwaith Dr Sharifah Shameem Agha a Dr Kate Langley, sydd ill dwy’n aelodau o staff cyswllt Canolfan Wolfson, wedi gweithio gyda phlant sydd â'r cyflwr, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, i greu'r animeiddiad sy'n trafod sut beth yw bod â ADHD. Darllen rhagor am yr animeiddiada’r diwrnod agored ynghylch ADHD a lansiad y ffilm.
Dewch i ni siarad am ADHD - You Tube
Hwyliau a lles pobl ifanc
Yma, mae Dr Rhys Bevan-Jones yn sôn am hwyliau, lles ac iselder ymhlith pobl ifanc – gan gynnwys sut y gallai hwyliau isel neu iselder fod yn amlygu’i hunain, rhesymau a allai fod yn sail posibl i hyn, a dulliau i atal a rheoli anawsterau. Mae hyn cael ei drafod yng nghyd-destun y person ifanc yn ogystal â’u teuluoedd/gofalwyr.
Mae hefyd yn trafod rhaglen ddigidol o'r enw 'MoodHwb', a grëwyd i gefnogi hwyliau a lles. Cafodd y rhaglen ei datblygu gyda phobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhaglen yn cael ei threialu cyn hir yng Nghymru a'r Alban.
Mae Rhys yn seiciatrydd ac yn ymchwilydd yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sgyrsiau a'r cynnwys fideo diweddaraf gan ymchwilwyr Canolfan Wolfson.