Ewch i’r prif gynnwys

Ein gwaith

Rydym yn gweithio ar draws seiciatreg ddatblygiadol a chlinigol, geneteg, gwyddorau cymdeithasol a niwrowyddorau, i ddeall iselder a gorbryder yn well ymysg pobl ifanc.

Nod ein gwaith yw cyflawni newid trawsffurfiannol yn y ffordd rydym yn deall heriau iechyd meddwl y glasoed a'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy ymyriadau sy'n cynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.

Ein nod yw cynnwys pobl ifanc, ysgolion, y rhai hynny sydd â risg teuluol uchel a chleifion, ym mhob cam o'n hymchwil. Ymgysylltu â phobl ifanc a rhanddeiliaid wrth lywio nodau ein hymchwil a'n hymarfer, ac wrth lunio a chynnal ymyriadau newydd i wella iechyd meddwl y glasoed mewn cyd-destunau iechyd ac ysgolion.

Ein nod yw i'n canfyddiadau gwyddonol lywio polisïau ac arferion yn gyflym, a gweithredu fel catalydd ym maes gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.

Themâu

Iechyd meddwl poblogaethol

Byddwn yn edrych ar ddata arhydol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu.

Arweinydd Thema