Ymchwil
Rydyn ni’n gweithio ar draws seiciatreg ddatblygiadol a chlinigol, geneteg, gwyddorau cymdeithasol a niwrowyddorau, i ddeall iselder a gorbryder yn well ymysg pobl ifanc.
Nod ein gwaith yw cyflawni newid trawsffurfiannol yn y ffordd rydyn ni’n deall heriau iechyd meddwl y glasoed a'r ffordd rydyn ni’n mynd i'r afael â’r heriau hyn drwy ymyriadau sy'n cynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.
Rydyn ni’n cynnwys pobl ifanc, ysgolion, y rhai hynny sydd â risg teuluol uchel a chleifion, ym mhob cam o'n hymchwil. Mae ein Grŵp Cynghori Ieuenctid a rhanddeiliaid yn helpu i lywio nodau ein hymchwil a'n hymarfer, ac yn gweithio gyda ni wrth i ni ddylunio a chynnal ymyriadau newydd i wella iechyd meddwl y glasoed mewn cyd-destunau iechyd ac ysgolion.
Ein nod yw i'n canfyddiadau gwyddonol lywio polisïau ac arferion yn gyflym, a bod yn gatalydd ym maes gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
Themâu
Iechyd meddwl poblogaethol
Byddwn ni’n edrych ar ddata arhydol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu.
Arweinydd Thema
Yr Athro Stephan Collishaw
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- collishaws@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8436
Geneteg
Mae ymchwilio i rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn hanfodol i ddeall y cyflyrau hyn.
Arweinydd Thema
Yr Athro Anita Thapar
Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thapar@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8478
Ymyriadau ar gyfer pobl ifanc sydd â risg deuluol uchel
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal ein astudiaeth Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL) flaenllaw lle byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc a'u rhieni i ddatblygu ymyriadau newydd i gefnogi teuluoedd lle mae rhiant yn dioddef o iselder.
Arweinydd Thema
Yr Athro Frances Rice
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- ricef2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8384
Ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion
Rydyn ni’n edrych ar rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.
Arweinwyr y themâu
Yr Athro Simon Murphy
Athro Gwella Iechyd Cyhoeddus, Prif Archwiliwr (PI) ar gyfer PHIRN a Chyd-Gyfarwyddwr Caerdydd ar gyfer DECIPHer
- murphys7@caerdydd.ac.uk
- +44 29208 79144
Carfan poblogaeth ac e-ddata cleifion
Mae ein hymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar y cyd ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy'n cael profiad o orbryder ac iselder.
Arweinydd Thema
Dulliau meintiol a gwyddoniaeth agored
Thema gyffredinol y Ganolfan gyfan oedd canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod ein timau wedi’u hyfforddi’n dda mewn dulliau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored.
Arweinwyr y themâu
Dr Lucy Riglin
Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- riglinl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8419
Rydym yn chwilio am rieni sydd â hanes o iselder, sydd â phlentyn rhwng 13 a 19 oed, i gymryd rhan yn yr astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc.