Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau achos

Mae ein gwaith ar y cyd â Grŵp Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson wedi arwain at lawer o brofiadau cadarnhaol ers ffurfio'r grŵp yn 2021.

Rydyn ni’n falch o dynnu sylw at ddwy astudiaeth achos ddiweddar sy'n dangos llwyddiant y gwaith ar y cyd parhaus rhwng ein hymchwilwyr a'n cynghorwyr ieuenctid.

Astudiaeth achos: Dylanwadu ar ddyluniad ein hastudiaeth treial clinigol blaenllaw

Prif rôl y Grŵp Cynghori Ieuenctid yw gwneud argymhellion ar sut rydyn ni’n cynnal ein gwaith ymchwil.

Mae ein cynghorwyr ieuenctid wedi cyfrannu at ddylunio'r astudiaeth Sgiliau er Lles Pobl Ifanc (SWELL) ar sawl achlysur, gan weithio ochr yn ochr â Dr Olga Eyre a Dr Vicky Powell.

Dylunio'r astudiaeth

Yn ystod yr ymarfer ymgynghori cychwynnol, rhoddwyd cyflwyniad byr i'r grŵp am yr astudiaeth yn ogystal â hyfforddiant ar sut mae hapdreialon rheoledig yn gweithio.

Nodau’r sesiwn oedd ceisio adborth ar enw'r astudiaeth, yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio'r astudiaeth i bobl ifanc, a sut y cynhelir yr astudiaeth, gan gynnwys, er enghraifft, y mathau o asesiadau a ddefnyddir.

Cynhaliwyd ymarfer ar y cyd arall gyda'r grŵp ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Yn y sesiwn hon, gofynnwyd i bobl ifanc rhannu eu profiadau o gymryd rhan mewn grwpiau ar-lein a pha syniadau oedd ganddyn nhw ar sut i gynnal sesiynau ar-lein.

Defnyddiwyd yr adborth hwn i lunio'r grwpiau ar-lein sy'n rhan o astudiaeth SWELL.

Creu adnoddau

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn derbyn llawlyfr sy'n cyd-fynd â'r sesiynau yn rhan o’r astudiaeth. Rhoddodd y Grŵp gyngor ar sut i'w wneud y llawlyfr yn ddiddorol, sut i wella'r stribedi comig sydd wedi'u cynnwys yn y llyfr gwaith, a dywedodd y gallai codau QR fod yn ffordd dda o roi fideos yn y llyfr gwaith.

Ystyriwyd yr adborth hwn wrth ddatblygu sesiynau Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar-lein (CBT) ar gyfer astudiaeth SWELL ac wrth wneud diweddariadau i'r llyfr gwaith.

Yn olaf, gofynnwyd i'r grŵp mynegi eu barn ar y stribedi comig newydd a gafodd eu datblygu i'w defnyddio yn y llyfr gwaith i bobl ifanc. Rhoddodd y cynghorwyr ieuenctid adborth ac awgrymwyd newidiadau i arddull, cynnwys a hygyrchedd y stribedi comig.

Mae'r tîm SWELL wedi gwneud y gwelliannau a awgrymir ac wedi rhoi’r stribedi comig newydd hyn yn llyfr gwaith CBT yr astudiaeth.

Rhoi adborth amhrisiadwy i ymchwilwyr

Rhoddodd y grŵp adborth hynod werthfawr i dîm yr astudiaeth yn y cyfnod cyn ei lansio, gan sicrhau bod y deunyddiau a'r dull cyffredinol o gynnal yr astudiaeth mor berthnasol i bobl ifanc â phosibl.  

Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael un o gyn-aelodau’r Grŵp Cynghori i fod yn aelod o bwyllgor annibynnol llywio’r treial.

“The youth advisors have brought refreshing perspectives and enabled us to ensure the study's intervention for young people is as inclusive, non-stigmatising, engaging and effective as it can be. We are tremendously grateful for their ongoing input.”
Jac Airdrie Clinical Psychology Lead, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Astudiaeth achos: Gosod agenda Canolfan Wolfson

Mae ein Cynghorwyr Ieuenctid yn rhoi eu barn ar sut rydyn ni’n gwneud ein hymchwil - ond maen nhw hefyd yn wrthi'n gosod yr agenda ar gyfer yr hyn a wnawn yma yn y Ganolfan.

Llywio themâu ymchwil

Ers ffurfio'r grŵp, mae pobl ifanc wedi mynegi bod stigma o ran iechyd meddwl yn thema allweddol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gofynnon ni i George Watkins (aelod o'n Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu a chyn Pencampwr Ymchwil Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl) gynnal grŵp ffocws pwrpasol i drin a thrafod canfyddiadau ein cynghorwyr o stigma a'r effeithiau andwyol y gall eu cael.

Roedd yn sgwrs eang a drafodwyd syniadau o ran stigma strwythurol, cymdeithasol a hunan-stigma, yn ogystal ag effaith negyddol rhoi labeli ar bobl.

Eistedd ar fyrddau llywio

O ystyried pwysigrwydd y mater hwn i'n cynghorwyr, fe wnaethon ni addasu ein cyfarfod Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu i drafod hyn yn helaeth. Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr ieuenctid, clinigwyr o’r GIG, partneriaid trydydd sector, yn ogystal â Chomisiynydd Plant Cymru, ac ymgynghorwyr o Lywodraeth Cymru.

Roedd y pethau allweddol y gellir manteisio arnyn nhw yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod yr adborth yn llywio strategaeth y Ganolfan ar y lefel uchaf, yn ogystal â chael ei gynnwys yn ein strategaeth Cyfathrebu a'i integreiddio yn ein cynlluniau ymchwil a lledaenu yn y dyfodol.

Daeth y cyfarfod i'r casgliad bod gan ymchwil iechyd meddwl, a sut mae’n cael eu cyflwyno, y potensial i gael gwared ar stigma a herio camsyniadau.

Rhagor o wybodaeth gan ein cynghorwyr ieuenctid ar bwnc stigma o ran iechyd meddwl.

Ymrwymo i gynnwys y cyhoedd

Yn unol â'r Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau yn y Ganolfan. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda nhw ar ein cynlluniau lledaenu yn y dyfodol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith cynnwys y cyhoedd neu'r Grŵp Cynghori Ieuenctid, cysylltwch â ni.

Emma Meilak

Emma Meilak

Public Involvement Officer, Wolfson Centre for Young People's Mental Health

Email
meilake@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8479