Gweithio yma
Byddwch yn rhan o'n cymuned ymchwil fywiog
Byddwch yn dod yn rhan o'n cymuned ymchwil ffyniannus, gan weithio ar y cyd ag academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisïau a phobl ifanc o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd y Brifysgol ac ysgolion ledled Cymru.
Cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol
Fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol neu fyfyriwr PhD, gallwch fynd ar ymweliadau cyfnewid ymchwil gyda'n cydweithwyr rhyngwladol.
Rhaglen PhD o fath gwahanol
Mae ein rhaglen PhD unigryw yn cynnwys cyfnod pontio ôl-ddoethurol a ariennir am flwyddyn i ddatblygu eich cynllun cymrodoriaeth ymchwil sy'n alinio â'n hamcanion.
Helpwch gyda'n hysgol haf
Bydd ein hysgol haf iechyd meddwl pobl ifanc yn cynnwys hyfforddiant rhyngddisgyblaethol i gymrodorion, myfyrwyr ac ymarferwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Siapio polisïau iechyd y cyhoedd ac ysgolion
Bydd ein gwaith yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau iechyd y cyhoedd ac ysgolion fydd yn helpu i hyrwyddo iechyd meddwl gwell ymysg pobl ifanc.
Mae ein staff yn elwa ar gyfleusterau o'r radd flaenaf, ein lleoliad sy'n un o brif ddinasoedd ieuengaf a mwyaf bywiog Ewrop, a'n hymrwymiad i hyfforddi a datblygu.
Ar hyn o bryd, mae ein tîm wedi’i leoli ar gampws Parc Maendy yn Adeilad Hadyn Ellis, sydd o fewn tafliad carreg i ganol dinas Caerdydd. Byddwn yn ymuno â'r Campws Arloesedd newydd pan fydd wedi'i gwblhau.
Caiff Caerdydd ei enwi yn gyson ymysg y dinasoedd gorau yn y DU ar gyfer ansawdd bywyd, gyda chyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, canolfannau siopa arobryn, bywyd nos bywiog a pharciau hyfryd, ynghyd â ffyniant o ran y celfyddydau, cerddoriaeth a bwyd.
Mae rhai o olygfeydd mwyaf syfrdanol Cymru, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn agos iawn yn y car.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y newyddion a'r datblygiadau diweddaraf gan ganolfan ymchwil unigryw sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl ieuenctid.