Cyfleoedd Canolfan Wolfson
Helpwch ni i ddatblygu ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl pobl ifanc yn ein canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol, sydd wedi'i hariannu gan Sefydliad Wolfson.
Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi gweinyddol, dadansoddi data, ymchwilio ac ymgysylltu ag ysgolion newydd i gefnogi ein gwaith yn datblygu arbenigedd rhyngddisgyblaethol yn y maes ymchwil hwn. Lleolir y swyddi un ai ym Mhrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Abertawe.

Byddwch yn rhan o'n cymuned ymchwil fywiog
Byddwch yn dod yn rhan o'n cymuned ymchwil ffyniannus, gan weithio ar y cyd ag academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisïau a phobl ifanc o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd y Brifysgol ac ysgolion ledled Cymru.
Cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol
Fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol neu fyfyriwr PhD, gallwch fynd ar ymweliadau cyfnewid ymchwil gyda'n cydweithwyr rhyngwladol.
Rhaglen PhD o fath gwahanol
Mae ein rhaglen PhD unigryw yn cynnwys cyfnod pontio ôl-ddoethurol a ariennir am flwyddyn i ddatblygu eich cynllun cymrodoriaeth ymchwil sy'n alinio â'n hamcanion.
Helpwch gyda'n hysgol haf
Bydd ein hysgol haf iechyd meddwl pobl ifanc yn cynnwys hyfforddiant rhyngddisgyblaethol i gymrodorion, myfyrwyr ac ymarferwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Siapio polisïau iechyd y cyhoedd ac ysgolion
Bydd ein gwaith yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau iechyd y cyhoedd ac ysgolion fydd yn helpu i hyrwyddo iechyd meddwl gwell ymysg pobl ifanc.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau diweddaraf ym maes iechyd meddwl ieuenctid gyda'n bwletin e-newyddion misol a'n sesiynau briffio ymchwil bob dwy flwyddyn.