Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Rydym yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol benodedig sy’n canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.

We use our research expertise to focus on understanding the causes of adolescent mental health problems that can inform new effective ways to offer practical help to young people.

Rydym yn dod ag ymchwilwyr o'r radd flaenaf ynghyd i ganolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.

Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cynnwys sgyrsiau gan academyddion o fri rhyngwladol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Newyddion diweddaraf

Mae Athro wedi derbyn gwobr cyflawniad oes am waith arloesol ym maes geneteg seiciatrig

2 Rhagfyr 2024

Mae'r Athro Anita Thapar, seiciatrydd plant a phobl ifanc blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Ming Tsuang gan y Gymdeithas Ryngwladol Geneteg Seiciatrig (ISPG).

Ymchwilydd o Ganolfan Wolfson wedi mynd i gyfarfod Cymdeithas Frenhinol y DU a Ffiniau Gwyddoniaeth De Affrica yn Johannesburg

1 Tachwedd 2024

Yn ddiweddar, gwnaeth Dr Jessica Armitage, ymchwilydd o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, fynd i gyfarfod Cymdeithas Frenhinol y DU a Ffiniau Gwyddoniaeth De Affrica, a drefnwyd ar y cyd ag Academi Gwyddoniaeth De Affrica.

Digwyddiad ar-lein yn archwilio’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos esiampl o ran cydweithio â phobl ifanc

28 Hydref 2024

Ddydd Iau 19 Medi cynhaliodd Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc weminar arbennig i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid, mewn partneriaeth â phobl ifanc.