Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwadu ar gynlluniau a pholisïau ieithyddol yng Nghymru ac Iwerddon

Arweiniodd ymchwil o dan adain yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost i effeithiolrwydd comisiynwyr iaith at well deilliannau i siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg.

Yng Nghymru, mae tua 10% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg bob dydd ac, yn Iwerddon, mae 1.5% yn siarad Gwyddeleg bob dydd, y tu allan i drefn addysg y wlad. Mae polisïau a chynlluniau effeithiol a chadarn yn hanfodol ar gyfer diogelu ieithoedd brodorol a chynnig cyfleoedd iddyn nhw ffynnu.

Dadansoddodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd effeithiolrwydd comisiynwyr iaith ynghylch diogelu, rheoleiddio a hyrwyddo ieithoedd brodorol yng Nghymru ac Iwerddon.

Adolygu swydd comisiynydd iaith

Roedd sefydlu comisiynwyr iaith yn Iwerddon (2003) a Chymru (2011) yn ddatblygiadau cenedlaethol o bwys i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

O dan nawdd Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac o dan adain yr Athro Mac Giolla Chríost, astudiodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd effeithiolrwydd y rolau hynny yn ôl amryw safbwyntiau.

Ystyrion nhw fframweithiau deddfau a pholisïau’r comisiynwyr megis:

  • Cynlluniau iaith nad oes modd gorfodi cyrff cyhoeddus i’w derbyn am fod angen i’r comisiynydd a’r llywodraeth ddod i gytundeb â’r corff o dan sylw ynghylch pa wasanaethau sydd i’w cynnig yn y Gymraeg neu’r Wyddeleg
  • Safonau iaith sy’n mynnu i gyrff cyhoeddus gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Wyddeleg yn ôl y gyfraith gan ofalu, trwy hynny, y bydd rhagor o gydymffurfio

Cymru

Fe roes Mesur y Gymraeg 2011 statws swyddogol i'r iaith gan sefydlu fframwaith cyfrifoldebau statudol a dyletswyddau sefydliadol yn ogystal â chyflwyno safonau iaith yn lle cynlluniau iaith.

Er bod hynny’n gamp, dadleuodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd y byddai’n well fyth o ganlyniad i’w symleiddio.

  • Llai o ddyblygu ymdrechion, yn enwedig ym maes hybu’r iaith, trwy ddiffinio cyfrifoldebau penodol y comisiynydd a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd
  • Pennu ffiniau’r atebolrwydd rhwng y comisiynydd, Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol (y pryd hynny) trwy symleiddio fframwaith y deddfau a’r polisïau cyhoeddus
  • Symleiddio safonau iaith
  • Sefydlu uned lywodraethol dros lunio a defnyddio polisïau ar gyfer y Gymraeg

Iwerddon

Dadansoddodd ymchwil yr Athro Mac Giolla Chríost Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2003, hanes swydd Comisiynydd y Wyddeleg a hynt yr hawliau cyfreithiol i’r Gwyddelod Gwyddeleg. Lluniodd bapur hysbysu yn 2014 i helpu Llywodraeth Iwerddon i adolygu’r ddeddf y flwyddyn honno, gan argymell y canlynol:

  • Dylai cyfnod cynlluniau’r Wyddeleg fod yn hwy na thair blynedd
  • Dylai llywodraeth y wlad ystyried cyflwyno safonau iaith yn lle cynlluniau iaith
  • Dylai fod safonau llymach i gyrff cyhoeddus yn y Gaeltacht (ardaloedd Gwyddeleg, yn bennaf) nag mewn lleoedd eraill

Camau cynnar yn arwain at newid buddiol

Gan fod Prifysgol Caerdydd wedi cynnal ymchwil ychydig ar ôl i rolau comisiynwyr iaith gael eu sefydlu, roedd mewn sefyllfa i gyflwyno argymhellion unigryw ac amserol er newid. O ganlyniad, gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon weld bod angen newid a gweithredu yn unol â hynny.

Mae effaith yr ymchwil ar nifer o gynlluniau a pholisïau iaith Cymru ac Iwerddon yn amlwg.

Dylanwadu ar bolisïau hybu’r Gymraeg yn swyddi’r cynghorau lleol

Cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at ymchwil Prifysgol Caerdydd pan wrthododd argymhellion ei gweithgor arbenigol ei hun o ran mynnu hyn a hyn o fedrau Cymraeg i bob swydd ym maes llywodraeth leol. Roedd yr ymchwilwyr wedi pwysleisio'r egwyddor y dylai fod perthynas uniongyrchol rhwng gofynion y swydd a medrau ieithyddol y gweithiwr.

Adolygu Mesur y Gymraeg 2011

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd oedd yr unig rai i ofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r mesur yn ei gyfanrwydd yn ystod yr ymgynghori am Fil y Gymraeg. Datganodd Llywodraeth Cymru fis Mai 2016 ei bwriad i adolygu Mesur y Gymraeg 2011, a Phrifysgol Caerdydd gyflwynodd yr unig ymchwil academaidd a ystyriwyd yn berthnasol yn y Papur Gwyn fis Awst 2017 ynghylch Bil y Gymraeg. Er na welodd y bil olau dydd, roedd dylanwad Prifysgol Caerdydd yn amlwg yng ngeiriau Eluned Morgan AC (Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg ar y pryd) fis Awst 2019 yn ei hymateb ysgrifenedig i adroddiad terfynol ymchwiliad Pwyllgor Materion Diwylliannol, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddeall effaith a hynt Mesur y Gymraeg 2011 yn well.

Diffinio swyddogaethau'r Llywodraeth a'r Comisiynydd

Mae un o brif argymhellion y Pwyllgor dros Faterion Diwylliannol, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cyd-fynd â chanfyddiadau ac argymhellion Prifysgol Caerdydd ynglŷn â dyblygu rolau. Argymhellodd y Pwyllgor y ‘dylai Llywodraeth Cymru bennu ffiniau ei rôl a’i chyfrifoldeb a rhai Comisiynydd y Gymraeg yn eglur.’ Ar ben hynny, mae cyhoeddiad arall am sefydlu Prosiect 2050, uned gyflwyno amlddisgyblaethol yn Llywodraeth Cymru, yn cyd-fynd ag argymhelliad tîm Prifysgol Caerdydd i sefydlu uned wladol dros lunio a defnyddio polisïau hybu’r Gymraeg.

Symleiddio Safonau'r Gymraeg

Yn unol ag ymchwil ac argymhellion Prifysgol Caerdydd, cynigiodd adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor dros Faterion Diwylliannol, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried ffyrdd o addasu safonau'r Gymraeg.

Cyfnod cynlluniau iaith ac adolygu Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003 Iwerddon

Roedd papur tîm Prifysgol Caerdydd yn 2014 ar gyfer adolygiad Llywodraeth Iwerddon o Ddeddf yr Ieithoedd Swyddogol yn unigryw ymhlith y dystiolaeth a gyflwynwyd am ei fod wedi nodi nad yw tair blynedd yn ddigonol ar gyfer cynllun iaith. Dim ond y papur hwnnw ddadleuodd y dylai cyfnod pob cynllun fod yn hirach. Derbyniodd Llywodraeth Iwerddon hynny pan benderfynodd newid ei pholisi a chaniatáu i gynlluniau unigol barhau ar waith ar ôl diwedd y tair blynedd.

Sefydlu safonau yn lle cynlluniau, a chryfhau dyletswyddau yn y Gaeltacht

Gan ddyfynnu’r Athro Mac Giolla Chríost yn y maes hwn, cadwodd adroddiad gan Senedd Iwerddon yn 2016 fwriad i adolygu’r ddeddf. Yn sgîl hynny, mae crynodeb o ddeddf arfaethedig (Mehefin 2017) a bil ychwanegol (Rhagfyr 2019) yn adlewyrchu argymhellion yr Athro Mac Giolla Chríost ynghylch cyflwyno safonau yn lle cynlluniau a chryfhau dyletswyddau mewn ardaloedd Gwyddeleg.

Arwain at drawsffurfio

Roedd ymchwil a chanfyddiadau Prifysgol Caerdydd o gymorth ynglŷn â llunio polisïau Cymru ac Iwerddon – symleiddio rheoliadau cymhleth, diffinio rolau polisïau gwladol a sut y byddai comisiynwyr a llywodraethau’n ymwneud â’i gilydd a rhoi rhagor o bwyslais ar gynnig gwasanaethau hanfodol yn y ddwy iaith er lles eu siaradwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Meet the team

Key contacts

Publications