Bywyd yn y Wladfa – profiad myfyriwr o dreulio’r haf yn yr Ariannin
Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod mwy am fywyd yn y Wladfa?
Roedd Llio Evans yn un o dri myfyriwr o Ysgol y Gymraeg a oedd yn ddigon ffodus i dreulio cyfnod yno dros yr haf wedi iddi ennill ysgoloriaeth i ymweld â’r Wladfa.
Mae Llio yn astudio ar gyfer gradd yn y Gymraeg ac isod mae hi’n sôn am sut aeth hi ati i ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth a beth wnaeth hi yn ystod ei chyfnod yn y Wladfa.
Dros yr haf cefais y cyfle bythgofiadwy i ymweld â Phatagonia yn Ne America. Daeth y cyfle yma imi drwy’r brifysgol lle cefais ysgoloriaeth i fynd i wirfoddoli gyda dau o fyfyrwyr eraill mewn ysgolion allan yn y Wladfa.
Roedd y broses o ymgeisio yn syml iawn. Roedd rhaid llenwi ffurflen a’i chyflwyno. Bachais ar y cyfle yma ar ôl darganfod fod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus, a chyn i fi wybod roedd yn amser camu ar yr awyren am 13 awr i gyrraedd prifddinas yr Ariannin sef Buenos Aires.
Penderfynais ei bod yn rhaid imi wneud ychydig bach o drafaelio, felly dechreuais arni, ac ar yr ail ddiwrnod yno cefais y cyfle i fynd ar ben ceffyl am y tro cyntaf yng nghefn gwlad gyda’r Gaucho’s.
Trafaeliais i dop yr Ariannin i ymweld ag Iguassu Falls, a oedd yn anhygoel, ac ymweld â phopeth yn y brifddinas. Cyn i fi droi rownd roedd yn amser i drafaelio lawr i Batagonia.
Y cam cyntaf ar y daith oedd ymweld â Phorth Madryn. Gyda lwc, cyrhaeddais mewn pryd ar gyfer dathliad Gŵyl y Glaniad sef dathliad sydd yn digwydd ar draws y Wladfa sydd yn dathlu glaniad cyntaf y Cymry ym Mhatagonia yn 1865.
Cawsom lawer o hwyl yn dod i adnabod y ddinas. Rhaid cofio mai gaeaf oedd hi, felly bach o law a gwynt ond dim digon i rwystro ni rhag gwylio a chymryd rhan yn yr ŵyl. Roedd awyrgylch gwych rhwng y gymuned Gymreig a phobl o dras frodorol. Roedd yn ddiwrnod llawn canu, dathlu a gemau chwaraeon ar y traeth a oedd yn llawer o hwyl!
Y diwrnod canlynol roedd rhaid gwneud bach o waith. Roedd rhaid paratoi ar gyfer te Cymreig y Glaniad. Roedd disgwyl i tua 200 o bobl ddod i'r te felly roedd y pwysau ymlaen i wneud yn siŵr bod digon o fwyd.
Gaiman yw’r pentref (wel, tref i ni) lle arhosais am y pythefnos cyntaf o wirfoddoli.
Arhosais yng Ngwesty Plas y Coed a oedd hefyd yn dŷ te traddodiadol Cymreig felly cefais sgons i frecwast bob bore. Doeddwn i ddim yn cwyno! Rhannwyd ein hamser mewn i ddau; hanner yn Ysgol Gymraeg y Gaiman a’r hanner arall yn Ysgol Hendre, Trelew. Roedd y plant wrth eu boddau yn siarad Cymraeg ac yn cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg gyda ni.
Gwersi cerdd oedd hoff wersi'r plant. Roeddent wrth eu boddau yn canu drwy’r Gymraeg a dysgu caneuon newydd gyda ni.
Cefais y cyfle i chwarae gemau gyda’r plant, a chynnal gwersi Cymraeg.
Roedd ymdrech y plant yn y Gymraeg yn hyfryd i weld. Cawsom groeso cynnes gan yr ysgolion a hefyd cawsom groesawiad mawr gan y Gymdeithas Gymraeg, lle'r oedd gwahoddiad i ni ymuno ag ymarferion côr, ymarferion dawnsio gwerin a chael gwahoddiad i gael Asado. Mae’n rhaid dweud, roedd y bwyd yn fendigedig. Rwyf yn sicr wedi bwyta gormod o fwyd dros y cyfnod yn y Wladfa, ond bwyd blasus iawn.
Y cam nesaf o’r daith oedd dal bws dros nos ar hyd y paith i’r Andes.
Arhosais yn Nhrefelin am y pythefnos olaf o wirfoddoli yn Ysgol y Cwm.
Roedd amseroedd ysgol yn wahanol yn Nhrefelin. Mae ysgol yn dechrau am 7:30yb ac yn gorffen am 13:00yp. Roedd yn profi yn anodd rhai boreau i ddeffro a chyrraedd yr ysgol am 7:30yb, ond roedd yn sicr werth ei wneud wrth gael gweld y cyffro yn y plant wrth gael pobl newydd yn eu dosbarthiadau.
Cymraeg ail iaith yw’r plant i gyd, ond mae’n rhaid dweud bod pob disgybl gyda’r hyder a’r parodrwydd i ddysgu’r iaith. Roedd rhaid atgoffa fy hun fy mod yn Ne America weithiau ac mae clywed y Gymraeg yn cael ei siarad mor bell i ffwrdd o adref yn deimlad dryslyd ond gwerthfawr iawn.
Er ein bod yn gweithio yn galed yn yr ysgolion, roedd digon o amser i gael mynd i ymweld â phrydferthwch yr ardal. Roedd llawer o gyfleoedd i fynd i gerdded a chawsom hyd yn oed eira a oedd braidd yn od i ni i feddwl mai mis Awst oedd hi.
Os yw’r cyfle yn codi i chi ymgeisio am yr ysgoloriaeth, ewch amdani! Mae wir yn brofiad bythgofiadwy. Roedd gweld hyder y plant yn datblygu yn y pythefnos wrth siarad â ni yn deimlad anhygoel. Roedd yn waith caled ond yn waith gwerth chweil.
Mae ymwelwyr o Gymru yn hanfodol i gymdeithas a diwylliant y Gymraeg yn y Wladfa.
Mae cael ymwelwyr yn rhoi ffydd ac ysbrydoliaeth i’r gymuned barhau i siarad y Gymraeg, ac roedd eu brwdfrydedd dros y diwylliant Cymreig yn rhagorol.
Roedd y profiad a gefais yn y Wladfa yn brofiad anhygoel. Diolch i bob un unigolyn yn y Wladfa a wnaeth wneud imi deimlo’n gartrefol. Rwyf yn bwriadu trefnu mynd yn ôl yn barod!