Darlithoedd coffa
Cynhelir dwy ddarlith flynyddol lle rydym yn croesawu academyddion ac ysgolheigion nodedig i'r Ysgol.
Mae'r darlithoedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i Gymru a'r iaith Gymraeg, boed o safbwynt cymdeithasol, llenyddol, gwleidyddol neu ddiwylliannol.
Darlith Goffa Islwyn
Cyfres achlysurol o ddarlithoedd Cymraeg er cof am y bardd mawr o Went, William Thomas, neu Islwyn (1832-78).
Meysydd y Ddarlith Goffa yw bywyd a gwaith Islwyn ei hun, agweddau ar hanes llenyddol, crefyddol a chymdeithasol Gwent, a llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Traddodwyd y Ddarlith Goffa gyntaf yn 1942 gan yr Athro W. J. Gruffydd.
Darlithoedd blaenorol
Blwyddyn | Siaradwr | Teitl |
---|---|---|
2018 | Dr Cathryn Charnell-White | ‘Cadair Farddes Sir Fynwy’: Florence Jones a’r canu gan ferched |
2017 | Marion Loeffler | Olion Llenyddol Ymwelwyr â Llanofer |
2016 | Mary-Ann Constantine | Anturiaethau Llydäwr yng Ngwlad Hud: La Villemarqué ymhlith Cymreigyddion y Fenni, 1838 |
2014 | Cynfael Lake | Dau o'r Deuheuwyr: Hywel Dafi a Lewys Morgannwg |
2013 | Frank Olding | Tirwedd Lenyddol Gwent |
2012 | Prys Morgan | Islwyn a Mynyddoedd Cymru |
2011 | D. Densil Morgan | Llenor Nyth y Dryw: Edward Matthews, Ewenni (1813-92) |
Darlith Goffa GJ Williams
Darlith a draddodwyd er cof am yr Athro Griffith John Williams (1892-1963), a fu’n darlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1921 a’i ymddeoliad yn 1957.
Cofiwn yn arbennig am ei waith ar Iolo Morganwg a thraddodiad llenyddol Morgannwg; ond meistrolodd bob agwedd ar ddysg yr iaith Gymraeg a’i thraddodiad llenyddol.
Yn ôl Syr Thomas Parry, ef ‘oedd yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf a welodd Cymru erioed’. Traddodwyd y Ddarlith Goffa gyntaf yn 1966 gan Saunders Lewis.
Darlithoedd blaenorol
Blwyddyn | Siaradwr | Teitl |
---|---|---|
2017 | Ifor ap Glyn | Sensoriaeth yr Iaith Gymraeg yn ystod y Rhyfel Mawr |
2016 | Angharad Price | T.H. Parry-Williams, yr Almaen a’r Rhyfel Byd Cyntaf |
2015 | M. Wynn Thomas | Beriah Gwynfe Evans: Prif Gynhyrchydd Cymru Fydd |
2014 | Bleddyn Owen Huws | Nid nefoedd i gyd mo’r ddaear’: T.H. Parry-Williams a’r Rhyfel Mawr |
2013 | Mererid Hopwood | ...pobun â'i lais, ... pobun â'i le': Waldo Williams Bardd Plant Cymru |
2012 | Christine James | Lluniau Llên: Morgannwg a’r Alegori Gymraeg |
2011 | Dafydd Johnston | Bardd yr Haf yng Nghysgod y Chwyldro: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym 1789 a Jean-Jacques Rousseau |
2010 | Patrick Sims Williams | Celtic Continuity |