Ysgoloriaethau
Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol
Pedair ysgoloriaeth israddedig, gwerth £1,000 yr un, ar gael i fyfyrwyr sydd am astudio'r Gymraeg gyda ni.
Gofynnir i ymgeiswyr lunio cais sydd yn mynegi eu diddordeb yn y Gymraeg ac yn ateb y cwestiynau canlynol:
- Pam ydych chi am astudio’r Gymraeg yng Nghaerdydd?
- Beth sy’n eich gwneud chi’n arbennig?
- Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?
Gellir anfon y cais atom ar unrhyw ffurf – a bydd creadigrwydd y cais yn cael ei ystyried hefyd. Dyma rai syniadau ynglŷn â sut i gyflwyno'ch cais: fideo, podlediad, poster, cân, cyflwyniad, darn ysgrifenedig, cerdd... unrhyw beth. Byddwch mor greadigol â phosibl!
Dyddiad cau ceisiadau: 1 Mawrth 2025.
Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd
Mae Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn-amser sy'n dod o gartrefi is eu hincwm a fydd yn cychwyn ar eu hastudiaethau israddedig ym mis Medi. Am ragor o fanylion ewch i safle bwrsariaethau israddedig Prifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ysgoloriaeth wedi ei chlustnodi ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dod i astudio'r Gymraeg (gradd sengl) yma yng Nghaerdydd. Dyfernir yr ysgoloriaeth ar sail ffurflen gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cewch fanylion ar wefan y Coleg Cymraeg.
Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r Brifysgol yn elfen bwysig iawn o waith yr Ysgol.