Israddedig
Rydym yn cynnig rhaglen gradd anrhydedd sengl gyffrous ac arloesol.
Mae’r BA yn y Gymraeg yn cynnig dau lwybr - un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel ail iaith. Yn y flwyddyn gyntaf bydd y carfanau hyn yn cael eu dysgu ar wahân cyn dod at ei gilydd ar gyfer rhai modiwlau yn yr ail flwyddyn.
Darganfyddwch ragor am ein rhaglen BA a’r profiad gallwch chi ddisgwyl os ydych yn ymuno â ni.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Y Gymraeg (BA) | Q560 |
Rydym yn meithrin tair nodwedd allweddol yn ein graddedigion: yn gyntaf, dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o'r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant; yn ail, sgiliau ieithyddol o’r radd flaenaf, ar lafar ac yn ysgrifenedig; ac yn drydydd, sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol a fydd yn werthfawr iawn wrth ddatblygu gyrfa mewn marchnad waith sy'n gynyddol gystadleuol.
Mae sawl ysgoloriaeth hael ar gael i gynorthwyo eich astudiaethau.
Yn ogystal â'r graddau sengl, mae amryw o raglenni cydanrhydedd ar gael hefyd.
Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r Brifysgol yn elfen bwysig iawn o waith yr Ysgol.