Defnyddio eich Cymraeg
Mae’n bwysig manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’ch Cymraeg.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich gwaith caled a'ch tuag at fod yn rhugl ac eisiau eich helpu i wella. Y mwyaf y byddwch yn ymarfer siarad Cymraeg, y cyflymaf y byddwch yn dod yn rhugl.
Rydyn ni'n cynnal llawer o ddigwyddiadau, fel Coffi a Chlonc a Siop Siarad, lle gall dysgwyr ymlacio, cymdeithasu, ac ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o fwynhau siarad Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel.
Cymuned fywiog a chyfeillgar
Porwch drwy ein Calendr Google Dysgu Cymraeg Caerdydd i gael manylion ein digwyddiad nesaf. Mae’r rhan fwyaf o’n digwyddiadau’n digwydd yn wythnosol.
Mae gan Gaerdydd hefyd gymuned fywiog a chyfeillgar o ddysgwyr Cymraeg, ac rydyn ni'n eich annog i ymuno â’r digwyddiadau hyn hefyd.
Bob blwyddyn, mae Menter Caerdydd yn cynnal yr ŵyl Tafwyl yng nghalon y ddinas gyda'r llwyfan Llais wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer siaradwyr newydd.
Ewch draw i wefan Menter Caerdydd i ddysgu mwy am yr holl weithgareddau sy'n cael eu cynnal a fydd yn eich helpu i drochi yn yr iaith.
Cysylltu â ni
Rydyn ni bob amser yn barod i ateb eich cwestiynau a'ch croesawu’n gynnes i'n cymuned.
Dysgu Cymraeg Caerdydd
Rydyn ni'n cynnig peth wmbredd o gyrsiau i ddechreuwyr hyd at siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.