Ymchwil ôl-raddedig
Ymunwch â’n cymuned ymchwil angerddol, amrywiol a mentrus er mwyn ystyried eich diddordebau mewn amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar effaith.
Ni yw un o’r canolfannau ymchwil blaenaf ym maes y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, ac rydym yn goruchwylio sawl myfyriwr PhD sy’n gweithio ar ieithoedd eraill a chyd-destunau rhyngwladol.
Mae ein diddordebau’n rhychwantu meysydd llenyddiaeth, ieithyddiaeth, gwleidyddiaeth, deddfwriaeth a diwylliant – rydym am ddeall yn well eu heffaith ffurfiannol ar y byd sydd ohoni a sut gallant lywio ein profiadau yn y dyfodol.
Mae gennym enw da rhyngwladol am ansawdd ac effaith ein hymchwil, ynghyd â chofnod cyson a balch o lywio newidiadau cadarnhaol, ymarferol, diwylliannol a deddfwriaethol er budd cymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd.
Ein darpariaeth
Rydym yn cynnig tri llwybr ymchwil. Gan eu bod yn hyblyg ac wedi’u teilwra at eich dulliau gweithio a’ch amgylchiadau personol a phroffesiynol, gellir dilyn y rhain yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gallwch gymryd y PhD fel opsiwn amser llawn (tair blynedd) neu ran amser (pum mlynedd) tra cynhelir ein MPhil am un flwyddyn i ddwy.
Mae gennym ystod eang iawn o arbenigeddau ymchwil yn yr Ysgol. Rydym yn siŵr y byddwch yn rhannu rhai diddordebau â’n staff, gan gynnwys:
- llenyddiaeth ganoloesol Cymraeg a Saesneg
- llenyddiaeth Gymraeg gan gynnwys llenyddiaeth i blant
- astudiaethau cyfieithu
- ysgrifennu creadigol a beirniadol
- datblygiad hanesyddol yr iaith Gymraeg a thafodieitheg
- amrywiaeth a newid ieithyddol
- cynllunio a pholisïau iaith
- dwyieithrwydd a chaffael ail iaith
- cymdeithaseg ieithyddol.
Mae ein myfyrwyr PhD yn gweithio ar ystod o bynciau diddorol ac amrywiol. Ymhlith y pynciau ymchwil cyfredol mae:
- Naratif Breuddwydion yng Nghymraeg y Canol Oesoedd
- Lefelu Tafodieithol ym Machynlleth
- Teirieithrwydd yng Nghymru
- Hawliau, Iaith a’r Wladwriaeth
- Y Berthynas rhwng Iaith, Delweddau ac Ystyr yn Llenyddiaeth Ddarluniadol Gymraeg i Blant
- Amrywio a Newid Iaith yng Nghaerdydd
- Cof a’r Genedl yn y Cyfnod Modern Cyfoes
- Ymchwilio i Bolisïau ynghylch Iaith mewn Addysg o Safbwynt Cyfiawnder Cymdeithasol a Hawliau Dynol Ieithyddol yn Adrannau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Nhair o Brifysgolion Deheuol Algeria.
Profiad proffesiynol
Rydym yn cydnabod y gall cyfleoedd am brofiad gwaith ategu eich datblygiad proffesiynol, academaidd a phersonol.
Yn yr un modd, bydd cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned academaidd genedlaethol a rhyngwladol sy’n gysylltiedig â maes eich pwnc yn eich galluogi i ddatblygu eich proffil a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.
Bydd ein lleoliad yng nghanol y ddinas a’n cysylltiadau sefydledig â phartneriaid a sefydliadau allanol yn eich rhoi ar y blaen o ran dod o hyd i gyfleoedd am leoliadau. Hefyd, rydym yn cynnig cyfleoedd am gyflogaeth yn yr Ysgol.
Prosiectau ymchwil
O bryd i’w gilydd, mae cyfleoedd yn codi i fyfyrwyr weithio ar brosiect ymchwil o dan arweinyddiaeth aelod o staff yr Ysgol.
Dysgu i Addysgu
Byddwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi gynnal seminarau a sesiynau iaith drwy raglen y Brifysgol, Dysgu i Addysgu. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol ar sut i addysgu ac asesu cyn ymgymryd ag unrhyw waith o’r fath.
Ymgysylltu academaidd
Rydym yn cynnig cefnogaeth ariannol a bugeiliol i annog eich presenoldeb mewn cynadleddau, seminarau a digwyddiadau perthnasol fydd yn ategu eich astudiaethau ac yn eich helpu i rwydweithio mewn cymunedau academaidd neu rai eraill, sy’n ymwneud â maes eich pwnc.
Cyllido
Mae ystod o wahanol opsiynau cyllido ar gael i ategu eich astudiaethau PhD, o fewn y Brifysgol a thrwy sefydliadau a phartneriaid allanol.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth ar yr MPhil/PhD cysylltwch gyda'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost neu i drafod ysgoloriaethau cysylltwch â'r Ysgol.
Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Siarad Cymraeg
- macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9180
Ysgol y Gymraeg
Mae ein hymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar gymdeithas, iaith, diwylliant a pholisi.