Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Gyda chynnydd yn y galw am raddedigion yn y Gymraeg ar draws ystod eang o sectorau, mae graddedigion yr ysgol yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.
Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r brifysgol yn elfen bwysig iawn o waith yr ysgol. Rydym yn cynnig nifer o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig sy’n ymwneud â'r Gymraeg yn y gymuned a'r gweithle i'ch galluogi i wneud eich marc ar Gymru ddwyieithog yr unfed ganrif ar hugain.
Mae cyn-fyfyrwyr yr ysgol wedi mynd i weithio mewn sefydliadau fel:
- Llywodraeth Cymru
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
- BBC
- S4C
- Cwmnïau cyfieithu
- Cwmnïau cynhyrchu megis Boomerang a Tinopolis
- Prifysgolion
- Ysgolion a cholegau
- CBAC
- Amgueddfa Werin Cymru
- CADW
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Gweisg cyhoeddi
- ac ambell sefydliad llai amlwg, megis Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Profiad gwaith proffesiynol
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth ennill profiad proffesiynol ac ymarferol o’r gweithle modern er mwyn gwireddu eich uchelgeisiau gyrfaol.
Caiff pob myfyriwr israddedig gyfle i ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle sy'n berthnasol i ddisgyblaeth y Gymraeg. Mae hyn yn digwydd yn yr ail flwyddyn ac rydym yn gwarantu lleoliad i bob myfyriwr ac yn rhoi cyngor ac arweiniad wrth ichi ddewis lleoliad addas. Rydym hefyd yn eich cynorthwyo i drefnu’r lleoliadau gwaith.
Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen academaidd sydd wedi ei theilwra i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a phroffesiynol er mwyn eich paratoi chi ar gyfer ystod o yrfaoedd posibl yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y brifysgol yn cynnig nifer o weithdai a sesiynau cynghori sydd o fudd i fyfyrwyr a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mwy o wybodaeth am Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.