Labordy hyfforddiant sgiliau
Mae ein labordy sgiliau yn ofod hyblyg sy’n addas ar gyfer sgiliau ‘gwlyb’ a ‘sych’ er mwyn hyfforddi mewn llawdriniaeth ac endosgopi agored a llai ymwthiol.
Mae’r man yn cynnwys 10 gorsaf hyfforddi hyblyg sy’n cynnwys 10 system Karl Storz Laparoscopic Stack newydd ac amrywiaeth o offer i gefnogi hyfforddiant ymarferol ar draws yr arbenigeddau mwyaf llawfeddygol.
Mae amrywiaeth o adnoddau hefyd ar gael er mwyn cefnogi gweithgareddau yn y labordy, gan gynnwys fodelau pwrpasol sy’n seiliedig ar feinwe anifeiliaid i'w defnyddio a'u trin.
Gellir defnyddio’r labordy ar gyfer:
- addysgu mewn grwpiau mawr a bach
- profi ‘blwch tywod’ o syniadau newydd, arloesedd a chysyniadau datblygiadol
- ymchwil ymarferol o effeithiolrwydd gyda thechnegau clinigol sy’n bodoli eisoes.
Siaradwch gyda’r tîm i drafod sut y gallwn fodloni eich anghenion hyfforddiant.
Mae cefnogaeth dechnegol ar gael am bris ar ben yr hyn a godir ar gyfer y labordy.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT)
Mae ein rhaglen addysgu gynhwysfawr yn cynnwys cyrsiau ar lefelau sylfaenol, canolradd ac uwch.