Cynnal cyrsiau hyfforddiant amlddisgyblaethol ar draws ystod o arbenigeddau llawfeddygol a meddygol.
Mae WIMAT yn rhan o Brifysgol Caerdydd, ac mae’n cynnal cyrsiau hyfforddiant amlddisgyblaethol mewn ystod eang o arbenigeddau llawfeddygol a meddygol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael gwybod bod y model ar gyfer hyfforddiant sgiliau clinigol yng Nghymru yn newid i ddiwallu anghenion y gweithlu clinigol yng Nghymru. O ganlyniad i'r penderfyniad hwn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), ni fydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn y cyllid seilwaith hwn o Ebrill 2024 ymlaen i gefnogi’r dull newydd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio ar y cyd gyda HEIW a phartneriaid eraill i ystyried atebion cynaliadwy ar gyfer darparu sgiliau clinigol/llawfeddygol ehangach. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cadarnhau lle bydd yr hyfforddiant sgiliau clinigol yn cael ei gynnig ar ôl Rhagfyr 2023.Bydd rhagor o newyddion yn cael ei rannu cyn gynted ag y bydd ar gael drwy wefan HEIW.
Mae trefniadau taith addysg a hyfforddiant endosgopi GIG Cymru o fis Ebrill 2024 ymlaen yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. I gofrestru eich diddordeb ebostiwch heiw.endoscopy@wales.nhs.uk
Bydd cyrsiau ar gyfer hyfforddeion llawfeddygol a gomisiynwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaIG) fel y gwersyll llawfeddygol yn parhau i gael eu darparu mewn safleoedd ledled Cymru yn 2023. Bydd hyfforddeion yn cael gwybod am gyrsiau gan Gyfarwyddwr eu Rhaglen Hyfforddi yr un peth ag arfer.
Mae ein rhaglen addysgu gynhwysfawr yn cynnwys cyrsiau ar lefelau sylfaenol, canolradd ac uwch.
Ymhlith ein cyfleusterau mewnol mae labordy hyfforddi sgiliau llawfeddygol modern sy’n cynnwys 10 o orsafoedd hyfforddi gyda’r cyfarpar diweddaraf a modelau efelychu.
Rydym wedi ein lleoli yn Medicentre Caerdydd, ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.