Ewch i’r prif gynnwys

Eisteddfod yr Urdd

Dylan the dragon at Eisteddfod 2016

Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu mwy na 15,000 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan mewn perfformiadau a chystadlaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod ym Maldwyn rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2024 lle daeth mwy na 90,000 o ymwelwyr i Fferm Mathrafal ym Meifod gan gyfrannu hyd at £6miliwn i'r economi leol.

Bydd Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng 26 a 31 Mai 2025.

Ein hymweliad yn 2024

Roedden ni unwaith eto ar y Maes gyda pheth wmbredd o berfformiadau amrywiol a gweithgareddau rhyngweithiol gyda'r nod o ysbrydoli pobl ifanc am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael mewn addysg uwch.

Y Seremoni Goroni

Roedd hi'n bleser gennym unwaith eto gefnogi un o'r digwyddiadau mwyaf mawreddog a phwysig yn yr Eisteddfod - y seremoni goroni.

Ystyrir y Goron yn un o'r prif wobrau llenyddol yn yr ŵyl a chaiff ei chyflwyno i awdur buddugol y rhyddiaith orau o dros 4,000 o eiriau.

Tegwen Bruce-Deans oedd enillydd y goron yr Eisteddfod eleni, a hynny am ddarn neu ddarnau o ryddiaith ar y thema ‘Terfynau'.

Mae ein partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd yn rhan o'n hymrwymiad i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Lowri Jenkins (Prifysgol Caerdydd) gydag enillydd y goron eleni, Tegwen Bruce-Deans yn Eisteddfod yr Urdd 2024
Enillodd y bardd o Bowys, Tegwen Bruce-Deans, goron Eisteddfod yr Urdd 2024 am ddarn neu ddarnau o ryddiaith yn seiliedig ar y thema 'Terfynau'.

Eisteddfod yr Urdd 2023

Flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethon ni gynnal cyfres o weithgareddau ymgysylltu sy'n ymdrin ag ystod o bynciau - gan gynnwys manteision algâu gwyrdd glas, y technegau diweddaraf a ddefnyddiwyd gan seryddwyr a mewnwelediadau i derfysgoedd Merched Beca.

Dyma flas o'n hwythnos yn yr ŵyl y llynedd:

Here's a taster of what we got up to in last year's Urdd Eisteddfod

Cysylltu â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein presenoldeb yn yr Urdd neu'r Eisteddfod Genedlaethol, cysylltwch â'n tîm Eisteddfod.