Tafwyl
![Gwyliau Cymru Tafwyl](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/26001/Tafwyl_panoramic-edit.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae Tafwyl yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer gwledd o gerddoriaeth, celfyddydau, llenyddiaeth a digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r ŵyl yn cynnig profiad unigryw a throchol i bawb, p'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg brodorol neu ddim ond â diddordeb mewn darganfod harddwch y Gymraeg.
Darparodd Dysgu Cymraeg Caerdydd amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn yr ŵyl y llynedd, gan gynnwys cyfweliad unigryw gyda Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a sesiwn holi ac ateb gyda chast yr opera sebon Gymreig, Pobol y Cwm.
Edrych ymlaen at yr ŵyl yn 2024
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon maes o law gyda'n rhaglen ar gyfer Tafwyl 2024, a gynhelir ar 12-14 Gorffennaf 2024.