Helpu Cymru i ffynnu
Rydym ni’n cefnogi ein cymunedau trwy weithio gyda phartneriaid lleol i hybu cydlyniant cymdeithasol a gwella lefelau iechyd, cyfoeth a llesiant yng Nghymru.
Rydym ni’n gwneud hynny mewn llawer o ffyrdd, o waith ymchwil i helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol fel dementia, i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth; o brosiectau ymgysylltu cymunedol i ehangu cyfranogiad grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch.
Ar ben hynny, ein nod yw gweithio gyda cholegau, partneriaid addysgol, a phob ysgol yng Nghymru i gefnogi athrawon a gweithio i wella cyrhaeddiad addysgol.
Mae cefnogi a hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn elfen arall bwysig o'n ‘cenhadaeth ddinesig’. Rydym ni’n chwarae rhan weithredol mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg o bwys, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Addysg a hyfforddiant
Rydym ni’n darparu ystod eang o addysg Gymraeg, gan gydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ni yw’r prif ddarparwr hyfforddiant meddygol a gofal iechyd yng Nghymru, ac mae ein graddedigion yn amrywio o feddygon a nyrsys i fydwragedd, ffisiotherapyddion, deintyddion, therapyddion galwedigaethol ac optegwyr.
Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd yn yr Ysgolion Fferylliaeth, Meddygaeth a’r Gwyddorau Gofal Iechyd i fyfyrwyr astudio ac ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae llawer o’u haddysg yn digwydd mewn lleoliadau GIG ledled Cymru, ac mae cryn nifer yn aros yng Nghymru ar ôl graddio.
Ar draws y Brifysgol, mae ein hacademyddion yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd mwyaf brys y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw.
170 o ffyrdd i ddefnyddio’ch Cymraeg
Rydym hefyd yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol Cymru mewn sectorau eraill, fel y Gyfraith. Ni yw’r unig brifysgol Grŵp Russell sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant proffesiynol cyfreithiol (yr LPC a’r BPTC), y mae llawer o’u helfennau hefyd yn cael eu haddysgu yn Gymraeg.
Rydym ni’n cynnal gradd BA mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth i ddatblygu newyddiadurwyr Cymraeg ar gyfer dyfodol y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.
Bellach mae modd astudio dros 170 o fodiwlau israddedig, o Sŵoleg i Athroniaeth, yn Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ym mis Ionawr 2017, traddodwyd y ddarlith feddygol gyntaf erioed yn Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Awen Iorwerth.
Rydym yn cyflwyno cenhadaeth ddinesig i gefnogi iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru drwy weithio gyda’n cymunedau.