Ewch i’r prif gynnwys

Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, a gynhelir mewn rhan wahanol o Gymru bob blwyddyn.

Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn y sir gyfagos, Rhondda Cynon Taf rhwng 3 a 10 Awst 2024

Llais y Maes

Dychwelodd y prosiect Llais y Maes, gwasanaeth newyddion digidol hirsefydlog dan arweiniad gohebwyr myfyrwyr o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag S4C ac ITV Cymru Wales i'r brifwyl flwyddyn diwethaf.

Roedd y prosiect yn cynnwys 7 myfyriwr newyddiaduraeth, gyda chefnogaeth eu darlithwyr: Andrew Weeks, Siân Morgan Lloyd a Gwenfair Griffith, a bu'n rhannu cynnwys cyfryngau cymdeithasol bywiog o Faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.

Cysylltu

Byddwn yn diweddaru ein rhaglen o ddigwyddiadau am yr wythnos ar y dudalen hon cyn gynted ag y bydd ar gael.

Yn y cyfamser, os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm yr Eisteddfod.