Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl y Gelli

Fflagiau stryd yn y Gelli Gandryll yn ystod yr ŵyl
Bwrlwm yn y Gelli Gandryll. Credyd: Billie Charity

Mae Gŵyl y Gelli, sy'n digwydd yn flynyddol i ddathlu y gorau o lenyddiaeth a'r celfyddydau o bedwar ban y byd, yn cael ei chynnal yn y Gelli Gandryll, tref hyfryd ym Mhowys.

Dathlu llenyddiaeth a chreadigrwydd yn y Gelli Gandryll

Wedi'i chynnal gyntaf yn 1988, mae'r ŵyl fywiog hon wedi esblygu i fod yn ffenomen fyd-eang, gan ddenu awduron, artistiaid, meddylwyr a pherfformwyr o bob cwr o'r byd. Eu cenhadaeth? I danio'r dychymyg, ysgogi trafodaethau, a rhannu eu gwreichion creadigol gyda chynulleidfaoedd brwdfrydig.

Dros y blynyddoedd, mae Gŵyl y Gelli wedi dod yn un o'r digwyddiadau diwylliannol amlycaf Cymru a'r Deyrnas Unedig, gan ddenu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol. Y llynedd, gwnaethom noddi'r ŵyl, lle rhannodd arbenigwyr o'r Brifysgol eu darganfyddiadau gwyddonol, datblygiadau technolegol, a chynnal trafodaethau ar genedligrwydd.

Ein cyfranogiad yng ngŵyl 2024

Cafodd Gŵyl y Gelli Cymru ei chynnal rhwng 23 Mai a 2 Mehefin 2024. Gwelwyd cynrychiolwyr o'r Brifysgol unwaith eto yn dychwelyd i'r ŵyl eleni, gan ddod ag amrywiaeth o sgyrsiau difyr, trafodaethau panel a chyflwyniadau bywiog.