Hyfforddiant
Mae ein Sefydliad yn darparu cyfleoedd i ddod ynghyd ag ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol a phartneriaid allweddol i ddysgu, hyfforddi a chydweithio.
Os oes gennych chi neu eich sefydliad anghenion penodol, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu datrysiadau datblygiad proffesiynol parhaus pwrpasol. Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau.
Dysgu ar-lein
Yn ystod y 30 mlynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd 80% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o brinder dŵr. Mae ein MOOC (Massive Open Online Course) sydd wedi ei ddatblygu gyda thîm rhyngddisgyblaethol o'n hymchwilwyr cysylltiedigyn yn cyflwyno’r dysgwyr i heriau diogelwch dŵr ac yn esbonio pam mae gweithgaredd dynol a materion amgylcheddol yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hadnoddau dŵr.
Cyfleoedd doethurol
Mae sefydliadau cysylltiedig y Sefydliad Ymchwil Dŵr yn arwain, hyfforddi a goruchwylio fel aelodau allweddol o nifer o raglenni hyfforddiant doethurol a ariennir gan UKRI. Archwiliwch y canolfannau sy'n recriwtio carfannau PhD newydd isod.
Hefyd mae llawer o gyfleoedd PhD ar gael yn ein hysgolion cyswllt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Find a PhD.
Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir
Cynigir modiwlau eraill sydd â chydrannau gwyddor dŵr ar draws y Brifysgol:
Newyddion, diweddariadau ac eitemau o ddiddordeb gan y Sefydliad Ymchwil Dŵr