Ewch i’r prif gynnwys

Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4

Mae diogelwch dŵr yn golygu sicrhau bod digon o ddŵr o'r ansawdd cywir yn y lle iawn ar yr adeg iawn i bobl, ffermio, busnesau a'r amgylchedd.

Gyda 500+ o academyddion ar draws pedwar sefydliad ymchwil blaenllaw yn y DU, Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 (WSA) yw consortiwm ymchwil dŵr mwyaf y DU - ac un o'r rhai mwyaf ledled y byd. Mae’n dod ag academyddion a rhanddeiliaid ynghyd â gweledigaeth gyffredin o fynd i'r afael ag effaith newid byd-eang ar ddŵr er budd i bobl ac ecosystemau.

Mae'r Gynghrair yn llwyfan ar gyfer:

  • cynyddu gwaith traws-sefydliadol
  • rhannu seilwaith, cyfleusterau, offer ac adnoddau hyfforddi o'r radd flaenaf
  • creu perthnasoedd cydweithredol hirdymor ar draws nifer o sectorau a diwydiannau
  • meithrin rhagoriaeth ymchwil dŵr amlddisgyblaethol i gynyddu cydnabyddiaeth ac effaith ryngwladol

Gwyliwch i ddysgu rhagor am Gynghrair GW4 (Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg).

Ein canolfannau ymchwil partner

Ymunwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes ddiddordeb gennych chi mewn ymuno â'r gymuned ymchwil hon cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost at wsainfo@caerdydd.ac.uk.