Ewch i’r prif gynnwys

Dŵr Cymru Welsh Water

Ffurfiolwyd ein hanes hir o gydweithio â Dŵr Cymru Welsh Water ym mis Gorffennaf 2022 drwy gytundeb partneriaeth strategol rhwng prifysgol ymchwil fwyaf Cymru a’r unig gwmni cyfleustodau dielw yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ceisio rhoi hwb i brosiectau sydd â’r potensial i gyflawni canlyniadau uchelgeisiol ar raddfa ar draws themâu strategol, gan hybu nifer y prosiectau ymgynghori a ariennir yn uniongyrchol a chydweithrediadau ymchwil a throsoli cyllid allanol sylweddol trwy noddwyr megis cronfa Her Ofwat. UKRI a Horizon Europe.

Gwahoddir staff â diddordeb o DCWW a’r Brifysgol i ymuno â rhwydwaith bywiog a hwylusir gan bwyllgor llywio’r Bartneriaeth. Mae aelodau'r rhwydwaith yn cael mynediad at gyfeiriadur a chymorth i ddatblygu prosiectau; cyfnewid gwybodaeth; a chyfoethogi profiadau staff a myfyrwyr trwy hyfforddiant, prosiectau a lleoliadau.

Cynrychiolwyr y pwyllgor llywio

profile photos of representatives from DCWW and CU on the strategic partnership steering committee
Prifysgol CaerdyddDŵr Cymru
Isabelle Durance
Andy Weightman
Devin Sapsford
Rupert Perkins
Tom Beach
Owen Jones
Max Munday
Paul Gaskin
Nial Grimes
Gemma Williams
Anna Humphrey
Chris Catchpole
Sharon Ellwood
Tara Froggatt