Ewch i’r prif gynnwys

Mae Arsyllfa Taf a Threlái yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth ar ecosystemau afonydd gyda dylanwadau trefol, diwydiannol ac amaethyddol.

Mae ymchwil yn y dalgylch yn cynnwys bioleg, cemeg, a pheirianneg, ymhlith meysydd eraill. Mae ein canfyddiadau'n cyfrannu'n uniongyrchol at argymhellion polisi a chyfraniadau at gyhoeddiadau academaidd effaith uchel.

River Taff

Cemegion gwenwynig yn rhwystro afonydd Prydain rhag adfer

Mewn lleoliadau trefol, mae gan afonydd Cymru gadwyni bwyd sydd wedi’u difrodi a llai o rywogaethau o infertebratau, o’u cymharu ag afonydd gwledig

Gwyddonwyr yn taflu dŵr oer dros honiadau bod afonydd Prydain 'y glanaf erioed ers y Chwyldro Diwydiannol'

Mae safon dŵr llawer o afonydd Cymru a’r DU yn 'annerbyniol o wael' o hyd yn ôl ymchwil

bottleriver

Fydd Cymru yn arwain y gad yn erbyn llygredd plastig?

Cyfwelodd BBC Wales â’r Athro Steve Ormerod a Dr Ifan Jâms i drafod adroddiad diweddar gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch llygredd plastig.

River Taff

Darganfod plastig mewn hanner cant y cant o bryfed dŵr croyw

Ymchwil newydd yn dangos bod microblastigau'n cael eu diystyru mewn ecosystemau afonydd lle maent yn gwenwyno pryfed ac yn peryglu bywyd gwyllt

Prosiectau ymchwil doethurol

ProsiectMyfyrwyrGoruchwyliwrPartner Rhanddeiliaid
FFRWD: astudiaeth o ddadansoddiad eDNA dwy afon a monitro llygryddion anthropogenigMaya LhosteDr Pablo Orozco Ter WengelAfonydd Cymru