'Pob peth byw': Y cysylltiad rhwng gwerthoedd diwylliannol ac economaidd o fewn systemau dŵr trefol gwydn
Prosiect rhyngddisgyblaethol i gryfhau gwytnwch systemau dŵr trefol yn Hargeisa, Somaliland.
Wrth i boblogaethau trefol yn Affrica Is-Sahara, mae creu systemau dŵr trefol cadarn i gynnal iechyd a glanweithdra dynol yn her datblygu sylfaenol. Mae'r her hon yn ddifrifol yn Somaliland, lle mae trefoli cyflym a thwf economaidd yn creu straen dŵr yn y tymor byr a hir.
Drwy astudiaeth achos o Hargeisa, mae'r prosiect hwn yn cyfuno mewnwelediadau sosio-hydroleg, economeg dŵr a daearyddiaeth gymdeithasol, i archwilio sut mae gwerthoedd economaidd a diwylliannol yn rhyngweithio ag arferion dŵr anffurfiol i lunio mynediad dŵr trefol. Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd: Dr Richard Gale, Dr Adrian Healy a'r Athro Alison Brown o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda sefydliadau Somaliland, gan gynnwys y Weinyddiaeth Adnoddau Dŵr, Llywodraeth Somaliland, Awdurdod Dŵr Hargeisa, Prifysgol Gollis a Phrifysgol Hargeisa i gryfhau gwydnwch cyflenwadau dŵr trefol a sicrhau mynediad fforddiadwy at ddŵr diogel i bawb.
Rhagor o wybodaeth
Yr Athro Alison Brown
Professor of Urban Planning & International Development
- brownam@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6519
Yr Athro Max Munday
Director of Welsh Economy Research Unit
- mundaymc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5089