Diogelwch dŵr ar gyfer cymdeithasau diogel a gwydn
Deall effaith newid hinsawdd a newid economaidd-gymdeithasol ar ddŵr a'r amgylchedd.
Ynglŷn â’r prosiect
Mae llifogydd, sychder, ansawdd dŵr gwael, a gwahaniaethau mewn mynediad rhanbarthol i ddŵr yn cael eu gwaethygu gan hinsawdd sy'n newid. Yn cydblethu â’r rhain mae ystod o yrwyr economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol megis twf poblogaeth, mwy o drefoli, trosi tir a diwydiannu, sy’n cymhlethu datrys problemau amgylcheddol sy’n ymwneud â dŵr sy’n effeithio ar gymdeithas ddynol ac ecosystemau.
Mae ein hymchwilwyr rhyngddisgyblaethol yn gweithio ar draws ffiniau cenedlaethol mewn amrywiaeth o amgylcheddau i gwrdd â'r heriau a osodwyd gan Nod Datblygu Cynaliadwy 6 y Cenhedloedd Unedig – sicrhau mynediad at ddŵr glân, deall effaith yr argyfwng hinsawdd a phwysau anthropogenig, gan gyd-ddatblygu atebion effeithiol mewn partneriaeth.
Prosiectau cysylltiedig
Dysgwch fwy am ein gweithgareddau ymchwil:
Ymchwil PhD
Gan ddefnyddio gwybodaeth ryngddisgyblaethol i roi golwg eang ar broblemau dŵr.