Dŵr ar gyfer iechyd a lles
Defnyddio dull Un Iechyd yng nghyswllt rôl dyfroedd croyw cydnerth mewn iechyd a lles cymunedol.
Amdan
Yn allweddol i fywyd, mae adnoddau dŵr yn fyd-eang o dan bwysau cynyddol yn sgil newid mewn patrymau hinsoddol, galw cynyddol am gynhyrchu bwyd a threfoli cyflym ond heb ei reoleiddio yn aml. Mae hyn yn rhoi pwysau ar ddiogelwch dŵr byd-eang ac yn creu'r tir perffaith ar gyfer lledaenu risgiau dŵr.
Mae gan ein grŵp rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr cymdeithasol a naturiol arbenigedd mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys pathogenau, eco-wenwyneg, modelu ac iechyd ecosystemau dŵr croyw. Gyda’i gilydd, maent yn ystyried y camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â bygythiadau i iechyd pobl ac yn cydnabod yr angen yn y tymor hwy i gynnal yr ecosystemau sy’n sail i lesiant a bywoliaethau dynol.
Uchafbwyntiau'r prosiect
Dysgwch fwy am ein hymchwil rhyngddisgyblaethol:
Ymchwil PhD
Prosiect PhD | Myfyriwr | Goruchwyliwr | Partner |
---|---|---|---|
Symudiad cryptosporidium mewn dŵr – effaith ewtroffeiddio a newid yn yr hinsawdd ar y cyfrwng clefyd milheintiol | Laura Hayes | Jo Cable | Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Mae cig un dyn yn wenwyn dyn arall: archwilio effaith gweinyddu cyffuriau torfol yn erbyn sgistosomau ar y we fwyd ddyfrol | Daniel McDowell | Jo Lello | Amgueddfa Hanes Natur Llundain |
Symudiad cryptosporidium mewn dŵr – effaith ewtroffeiddio a newid yn yr hinsawdd ar y cyfrwng clefyd milheintiol | Bozo Lugonja | Jo Cable | |
Deall rôl cyd-heintio mewn rheoli clefydau a heintiau | Sarah Rollason | Jo Lello |
Gall cyanobacteria yn ein dŵr yfed gynhyrchu cyfansoddion “blas ac arogl” sydd, er nad ydynt yn beryglus, yn annymunol. Nod gwaith ym mhrifysgolion Caerdydd a Chaerfaddon yw deall yn well, a rhagweld yn y pen draw, y blodau cyanobacteria sy'n cynhyrchu'r cyfansoddion hyn