Ewch i’r prif gynnwys

Plastigau o'r ffynhonnell i'r sinc

Rhoi tystiolaeth er mwyn deall yr her gyda phlastigau mewn dyfroedd croyw a mynd i’r afael â hi.

Cyswllt allweddol

Yr Athro Steve Ormerod

Yr Athro Steve Ormerod

Athro

Email
ormerod@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5871
Yr Athro Isabelle Durance

Yr Athro Isabelle Durance

Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Email
durance@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484

Gwybodaeth

Mae llygredd plastig mewn ecosystemau morol yn cael llawer o sylw, ond ni roddir cymaint o sylw i amgylcheddau dŵr croyw. Fodd bynnag, mae tunelli o blastigau’n pasio drwy afonydd bob blwyddyn, gan effeithio ar eu hecosystemau a’r bobl sy’n dibynnu arnynt.

Weithiau, gall dwysedd gronynnau plastig mewn gwelyau afonydd fod cymaint â hanner miliwn o ronynnau fesul metr sgwâr, sef llawer mwy na’r organebau byw yno.

Mae’r llygredd plastig yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth gynyddol i’r diwydiant dŵr, rheolyddion amgylcheddol, y llywodraeth, y diwydiannau plastigau a phecynnu a phobl leyg sy’n pryderu am gyflwr yr amgylchedd.

Mae ein grŵp yn mynd i’r afael â’r mater hwn o ystod o safbwyntiau disgyblaethol. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ymddygiadau cynaliadwy ynghylch defnyddio plastigau, dylunio plastigau sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, ac ymchwilio i effaith bosibl plastigau ar ecosystemau dŵr croyw.

bottleriver

Mentrau cyfredol

Llun o'r awyr o Lyn Brianne

Plastigau: o'r ffynhonnell i'r sinc

Ymchwilio i ffynonellau, trosglwyddiadau a goblygiadau ecolegol llygredd plastig ar draws amgylcheddau dŵr ffres.

Prosiectau PhD

Plastigau bioddiraddadwy mewn ecosystemau dŵr croyw

Effeithiau rhaeadrol micro- a nano-blastigau ar ansawdd lipidau a throsglwyddo drwy ecosystemau planctonic dŵr croyw

  • Myfyriwr: Ben McClay
  • Goruchwyliwr: Irina Guschina
  • Partner: Cardiff Harbour Authority

Dylanwad microblastigau ar ecosystemau dŵr croyw ar raddfa dalgylch a chyfraniad llwch teiars

Trafnidiaeth a thynged microblastigau

Aelodau'r thema