Offer cenhedlaeth nesaf ar gyfer datrysiadau dŵr
Integreiddio synwyryddion, gwyddoniaeth data, modelu, gwyddoniaeth dinasyddion a rhyngwynebau data-dynol i reoli risgiau i adnoddau dŵr ac ecosystemau.
Amdan
Mae synwyryddion ymreolaethol, Rhyngrwyd Pethau, gwyddoniaeth data a gwyddoniaeth dinasyddion i gyd yn newid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'r byd o'n cwmpas. Maent yn agor ffyrdd newydd o reoli adnoddau dŵr croyw gan ddefnyddio dulliau digidol arloesol. Rydym yn datblygu datrysiadau arloesol, megis "efeilliaid digidol" o'r amgylchedd naturiol a seilwaith o waith dyn sy'n cynnig atebion newydd a systemau rhybudd cynnar ar gyfer rheoli risg dŵr. Nod ein hymchwil rhyngddisgyblaethol yw gwella sut rydym yn rheoli’r galwadau cystadleuol ar ddŵr croyw ar draws gwahanol raddfeydd, o ddefnyddwyr dŵr domestig unigol i fusnesau mawr ac o ecosystemau naturiol i systemau dŵr o waith dyn.
Uchafbwyntiau'r prosiect
Darganfyddwch mwy am ein gweithgareddau ymchwil:
Ymchwil PhD
Prosiect PhD | Myfyriwr | Goruchwyliwr | Partner |
---|---|---|---|
Defnyddio synwyryddion in situ i fonitro iechyd ecosystemau mewn dalgylchoedd dŵr croyw | Inge Elfferich | Liz Bagshaw | Dŵr Cymru Welsh Water |
Technolegau newydd ar gyfer canfod a monitro pathogenau pysgod yn gynnar | Scott MacAulay | Jo Cable | |
Pontio ecoleg a thechnoleg: defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a deallusrwydd artiffisial i olrhain iechyd pysgod | Agnethe Olsen | Sarah Perkins | Sefydliad Gwy ac Wysg |
Defnyddio DNA amgylcheddol i ddeall rôl cysylltedd mewn ecosystemau pyllau | Claire Robertson | Dan Read | Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw |
Monitro ansawdd dŵr trwy Hydrobean, rhwydwaith synhwyro diwifr cost isel | Elle von Benzon | Liz Bagshaw |
Yn 2022, cychwynnodd tîm rhyngddisgyblaethol o Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol ar brosiect i fapio a chofnodi clefydau heintus mewn pysgod.